Ymarfer Proffesiynol Uwch, MSc / PGDip / PGCert

Cewch deilwra’r cwrs i'ch maes o ddiddordeb ac ymarfer

Gyda modiwlau dewisol

students

Trosolwg o'r Cwrs

Os ydych yn ymarferydd iechyd a gofal cymdeithasol sy'n ymgymryd â dysgu yn y gweithle, mae ein gradd Meistr mewn Ymarfer Proffesiynol Uwch yn ffordd wych i chi gael credyd academaidd ffurfiol ar gyfer eich datblygiad proffesiynol.

Mae'r cwrs yn rhaglen hynod hyblyg a modiwlaidd wedi'i arwain gan eich anghenion fel myfyriwr ac fel gweithiwr proffesiynol prysur. Byddwch yn ymdrin â phynciau allweddol sy'n ymwneud â pholisi ac ymarfer i'ch helpu i feithrin a mireinio eich sgiliau dadansoddi beirniadol mewn perthynas ag iechyd a gofal cymdeithasol. Mae gennych yr hyblygrwydd i ddewis yr hyn rydych chi'n dysgu amdano sy'n berthnasol i'ch rôl a'ch ymarfer proffesiynol personol yn yr arbenigedd o’ch dewis.

Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr sy’n ymgymryd â’r cwrs hwn yn gweithio mewn maes lle mae ymrwymiad i ddysgu yn y gweithle, gan fod y rhaglen hon yn galluogi cynnal astudiaethau ôl-raddedig wrth weithio.

Mae'r cwrs yn dechrau gydag wythnos sefydlu orfodol ddechrau mis Hydref sy'n eich paratoi i ddod yn ddysgwr annibynnol yn y gweithle ar gyfer pob modiwl rydych chi'n ymgymryd ag ef. Yn ystod yr wythnos cewch gyflwyniad i egwyddorion dysgu yn y gweithle drwy ddull dysgu cyfunol gan gynnwys sesiynau astudio tywysedig wyneb yn wyneb, ar-lein ac annibynnol.

Gan nad oes diwrnodau wythnosol â sesiynau a addysgir ar ôl yr wythnos sefydlu, caiff eich dysgu ei hwyluso drwy oruchwyliaeth academaidd gyda'ch tiwtor personol a enwir, presenoldeb mewn setiau dysgu gweithredu hybrid am 90 munud y mis, a mynediad at ystod o adnoddau dysgu ar-lein sydd ar gael ar Canvas.

Mae pob asesiad modiwl yn cynnwys datblygu e-bortffolio sy'n cynnwys contract dysgu, naratif, a phortffolio o dystiolaeth o ddysgu.

Pam Ymarfer Proffesiynol Uwch yn Abertawe?

Cyflwynir y cwrs drwy ein Hysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol, felly byddwch yn elwa o'n harbenigedd addysgu ac ymchwil trawsddisgyblaethol helaeth.

Yn ôl y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf, roedd 75% o'r ymchwil a wnaed yn yr Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn 3* ac felly'n sylweddol o ran cyrhaeddiad ac arwyddocâd. Mae ein ffocws ar allbynnau ymchwil wedi arwain at gynnydd o 21% mewn ymchwil sy’n arwain y byd (REF2021). Mae’r arbenigedd a’r rhagoriaeth ymchwil hyn yn dylanwadu’n uniongyrchol ar ein hymarfer dysgu ac addysgu a chynnwys eich cwrs. 

Mae gennym gysylltiadau cryf â rhwydweithiau ymarfer proffesiynol ac ymchwil academaidd yn Ewrop a ledled y byd, felly mae’r datblygiadau polisi ac ymarfer diweddaraf yn llywio eich dysgu.

Eich profiad Ymarfer Proffesiynol Uwch

Mae ein hystod eang o fodiwlau dewisol yn golygu y gallwch deilwra eich astudiaethau i’ch diddordebau a’ch maes ymarfer penodol.

Mae ein staff academaidd yn weithgar mewn ystod eang o feysydd iechyd rhyngbroffesiynol, gan gynnig cymysgedd heb ei ail o ragoriaeth academaidd ac arbenigedd polisi ac ymarfer cyfredol.

Gyrfaoedd Ymarfer Proffesiynol Uwch

Bydd eich cymhwyster Ymarfer Proffesiynol Uwch yn eich galluogi i symud ymlaen yn y ddisgyblaeth o'ch dewis, gan agor cyfleoedd posibl mewn meysydd gan gynnwys rolau ymchwil, addysg, polisi a rheoli.

Modiwlau

Mae'r cwrs hwn yn cynnwys pedwar modiwl 30 credyd ac un modiwl 60 credyd craidd:

  • Blwyddyn 1 - un modiwl craidd (SHGM90 Dechrau Eich Datblygiad Proffesiynol) ac un modiwl dewisol gwerth 30 credyd
  • Blwyddyn 2 - dau fodiwl dewisol gwerth 30 credyd
  • Blwyddyn 3 - un modiwl craidd gwerth 60 credyd

Mae pob modiwl ym mlynyddoedd 1 a 2 yn dechrau ym mis Hydref a mis Ionawr.

Gallwch gael hyd at 60 credyd o gatalog modiwlau ôl-raddedig yr Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

A Pinch of SALT

Mae dau fyfyriwr Ymarfer Proffesiynol Uwch, Zoe a Gill, yn ymddangos mewn pennod o Bodlediad Dysgu ac Addysgu Prifysgol Abertawe, 'A Pinch of SALT'. Yn y bennod hon, mae Zoe a Gill yn siarad am eu profiadau fel dysgwyr sy'n seiliedig ar waith - y manteision a'r heriau maent wedi'u hwynebu a sut mae hyn wedi eu galluogi i ddatblygu eu hymarfer proffesiynol. Gallwch chi wrando ar y podlediad yma.