Deallusrwydd Artiffisial, MSc

Mae 90% o'n hymchwil yn arwain y byd ac yn rhagorol yn rhyngwladol

Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021

robot and human hands touching finger tips

Trosolwg o'r Cwrs

Mae ein gradd MSc Deallusrwydd Artiffisial (AI) yn darparu sylfaen gynhwysfawr yn y cysyniadau a'r technolegau sy'n angenrheidiol ar gyfer datblygu a chymhwyso deallusrwydd artiffisial mewn cyd-destunau amrywiol.

Mae'r cwrs 16 mis hwn, sy'n dechrau ym mis Ionawr, yn cynnwys egwyddorion, dulliau a systemau cyfrifiadol, sy'n berthnasol i gymwysiadau’r byd go iawn. Pwysleisir y sylfeini mathemategol, sgiliau rhaglennu a'r meddwl yn feirniadol sydd eu hangen ar gyfer deallusrwydd artiffisial.

Trwy gydol y cwrs byddwch yn archwilio pynciau deallusrwydd artiffisial clasurol, fel dysgu peirianyddol, delweddu, optimeiddio a data mawr, yn ogystal â dulliau cyfoes sy’n cynnwys prosesu iaith naturiol a deallusrwydd artiffisial symbolaidd.

Yn ystod yr haf byddwch yn cymhwyso eich gwybodaeth ar y pynciau uchod i gyfarch problem byd go iawn trwy fodiwl prosiect cydweithredol.

Pam Cyfrifiadureg yn Abertawe?

Cydnabyddir Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Abertawe yn adran flaenllaw yn y DU, ac mae mewn safle nodedig mewn llu o dablau sy’n adlewyrchu rhagoriaeth ymchwil ac addysgu.

  • Uchaf 150 Cyfrifiadureg and Peirianneg (Global Ranking of Academic Subjects 2024), Ymhlith y 201-250 orau yn y byd (Tablau Prifysgolion y Byd THE 2025)
  • Ymhlith y 201-250 orau yn y byd ar gyfer Cyfrifiadureg a Systemau Gwybodaeth (Tablau Prifysgolion y Byd QS 2025)
  • 100% ar gyfer arwain y ffordd yn fyd-eang a sgoriau ardderchog yn rhyngwladol ar gyfer effaith ymchwil - Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021

Fe'ch dysgir gan arbenigwyr cyfrifiaduron ysbrydoledig megis yr Athro Matt Jones, a gydnabyddir yn eang fel arweinydd wrth rymuso cymunedau digidol gwledig yn y DU ac ar draws y byd datblygol.

Eich profiad Cyfrifiadureg

Byddwch chi wedi'ch lleoli yn y Ffowndri Gyfrifiadol ar ein Campws y Bae, sef canolbwynt ein cymuned fywiog ar gyfer arweinwyr ymchwil o safon fyd-eang ym maes cyfrifiadureg.

Yn ystod y cwrs gradd hwn, cewch eich addysgu gan aelodau staff o grwpiau ymchwil Deallusrwydd Artiffisial sy'n adnabyddus yn rhyngwladol, gan gynnwys yr Athro Matt Jones y dyfarnwyd Cymrodoriaeth fawreddog bersonol o 5 mlynedd iddo gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC) i ddilyn agenda ymchwil Deallusrwydd Artiffisial anturus ac uchelgeisiol.

Mae ein gwybodaeth am ddatblygiadau parhaus ym maes Deallusrwydd Artiffisial yn helpu i gadw’r hyn a ddysgir gennych yn gyfoes ac yn berthnasol i’r diwydiant ehangach.

Caiff ein labordai eu huwchraddio yn barhaus i sicrhau na fydd cyfarpar byth yn fwy na thair blwydd oed, ac yn brin iawn yn fwy na dwy flwydd oed. Mae tri labordy sydd wedi'u cysylltu â'r rhwydwaith yn llawn ar waith ar hyn o bryd.

Cyflogaeth Cyfleoedd Cyfrifiadureg

Mae gradd Meistr mewn Deallusrwydd Artiffisial yn rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth angenrheidiol i ddilyn ystod eang o yrfaoedd ar draws amrywiaeth o ddiwydiannau. Dyma rywfaint o deitlau swyddi y gall graddedigion roi ystyriaeth iddynt:

  • Gwyddonydd Ymchwil Deallusrwydd Artiffisial
  • Peiriannydd Dysgu Peirianyddol
  • Datblygwr Meddalwedd Deallusrwydd Artiffisial
  • Peiriannydd Roboteg
  • Peiriannydd Gweledigaeth Gyfrifiadurol
  • Peiriannydd Prosesu Iaith Naturiol
  • Pensaer Atebion Deallusrwydd Artiffisial
  • Arbenigwr Dysgu Dwfn
  • Rheolwr Cynnyrch Deallusrwydd Artiffisial
  • Peiriannydd Systemau Awtonomaidd
  • Hyfforddwr Deallusrwydd Artiffisial
  • Dylunydd Rhyngweithio â Llais
  • Arbenigwr Gweithredu Deallusrwydd Artiffisial
  • Dadansoddwr Polisi Deallusrwydd Artiffisial

Mae'r rolau hyn yn cynnwys nifer o ddiwydiannau, gan gynnwys technoleg, cyllid, gofal iechyd, moduro, gweithgynhyrchu, adloniant a mwy. Mae'r galw am arbenigedd ym maes Deallusrwydd Artiffisial yn tyfu ac mae gweithwyr proffesiynol â sgiliau deallusrwydd artiffisial uwch mewn sefyllfa dda i fanteisio ar yr amrywiaeth o gyfleoedd sydd ar gael yn y maes deinamig hwn.

Modiwlau

Mae rhan gyntaf yr MSc hon yn cynnwys chwe modiwl, gan gynnwys modiwl prosiect grŵp dros yr haf. Yn yr ail ran, byddwch yn medru canolbwyntio ar brosiect ymchwil gwerth 60 credyd.