Gwyddor Actiwaraidd, MSc

Eithriad i hyd at 3 arholiad proffesiynol gyda'r cwrs hwn

Sefydliad a Chyfadran yr Actiwarïaid (IFoA)

image

Trosolwg o'r Cwrs

Acwtari yw gweithiwr proffesiynol ym maes busnes sy'n defnyddio mathemateg ac ystadegau i asesu risg mewn amrywiaeth eang o gyd-destunau, gan amrywio o yswiriant a bancio i gynllunio iechyd a llywodraeth.

Mae'r radd MSc mewn Gwyddor Actiwaraidd wedi'i llunio i roi sylfaen yn y damcaniaethau mathemategol ac ystadegol y mae eu hangen ar raddedigion o ddisgyblaethau niferus er mwyn bod yn actwari cymwys.

Byddwch yn datblygu sgiliau marchnadadwy allweddol wrth ddefnyddio mathemateg ac ystadegau i fodelu problemau actwaraidd. Mae'r rhaglen hon wedi'i hachredu gan y corff proffesiynol ar gyfer actiwarïaid yn y DU (y Sefydliad a Chyfadran Actiwarïaid), a bydd graddedigion llwyddiannus yn gallu cael eu heithrio.

Pam Gwyddor Actiwaraidd yn Abertawe?

  • Un o’r 201-250 o Raglenni Gorau yn y Byd (QS World University Rankings 2025)
  • Cyfleusterau o safon fyd-eang ar gyfer gwyddorau mathemategol a chyfrifiadol
  • 100% yn arwain y byd ac yn rhagorol yn rhyngwladol - Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021

Eich Profiad Gwyddor Actiwaraidd

Yn rhan gyntaf y cwrs, byddwch yn astudio amrywiaeth eang o fodiwlau sy'n cynnwys pynciau ym meysydd mathemateg ac ystadegau actiwaraidd. Yn yr ail ran, byddwch yn cwblhau prosiect traethawd hir sylweddol.

Dros gyfnod eich astudiaethau, cewch eich asesu drwy gyfuniad o arholiadau ysgrifenedig, gwaith cwrs a'r traethawd hir.

Caiff eich astudiaethau eu cefnogi gan gyfleusterau ym mhrif lyfrgell y Brifysgol, sy'n cynnwys casgliad helaeth o adnoddau mathemateg, a'n Gwasanaethau Digidol.

Mae'r Ystafell Ddarllen wrth wraidd yr adran hefyd ar gael i chi. Dyma gartref y llyfrgell adrannol ac ystafell o gyfrifiaduron.

Cyfleoedd Cyflogaeth Gwyddor Actiwaraidd

Pleidleisir gyrfa actiwari yn rheolaidd ymhlith y tri dewis swydd uchaf yn seiliedig ar symbyliad deallusol, effaith a gwobr ariannol. Mae adnoddau ar gael yn https://actuaries.org.uk/qualify/become-an-actuary sy'n ymwneud â chyfleoedd i actiwarïaid a'r llwybr tuag at ddod yn actiwari.

Mae gan radd o Abertawe sydd wedi'i heithrio o sawl arholiad proffesiynol IFoA fantais gystadleuol benodol i ddechrau gyrfa actiwaraidd mewn yswiriant, rheoli risg, neu fuddsoddi a chyllid. Gallech ddechrau gyda rôl mewn modelu ariannol a dehongli ystadegol ac yna symud ymlaen yn raddol tuag at fod yn arweinydd technegol a rheolwr busnes.

Modiwlau

TBC

Yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei ddweud am Fathemateg yn Abertawe

Ewch ar daith o amgylch ein cyfleusterau