Trosolwg o'r Cwrs
Mae'r MSc mewn Gwyddor Data Gymhwysol yn darparu hyfforddiant priodol i fyfyrwyr heb gefndir arbenigol i'w galluogi nhw i wella eu cyfleoedd yn y dyfodol a chwarae rhan allweddol yn yr economi ddigidol.
Bydd y rhaglen yn addysgu myfyrwyr i weithio gyda data, ei ddelweddu a'i ddeall, annog meddwl mewn ffordd ystadegol a datblygu dulliau gwneud penderfyniadau'n seiliedig ar ddata. Yn ogystal, mae'r rhaglen yn darparu'r sylfaen angenrheidiol mewn Mathemateg, Ystadegau a sgiliau rhaglennu sylfaenol sy'n allweddol ar gyfer deall cymhlethdod data a'i ddadansoddi mewn ffordd systematig. Mae hefyd yn darparu sgiliau allweddol mewn sawl pwnc cyfrifiadureg, megis Delweddu Data a Dysgu Peirianyddol. Mae'r rhaglen hon ar gyfer myfyrwyr sydd â gradd mewn pwnc anrhifog, ond sydd â diddordeb mewn dysgu dulliau gwyddor data hanfodol gyda chymwysiadau amrywiol.
Sylwer, mae'r MSc mewn Gwyddor Data Gymhwysol, yn briodol ar gyfer y rhai hynny heb radd israddedig mewn maes mathemateg (neu bynciau cysylltiedig - gweler y gofynion mynediad isod). Os oes gennych radd israddedig mewn maes Mathemateg (neu gyfwerth) ac yn dymuno dilyn llwybr cyfrifiadureg/gwyddor data yn eich gradd Meistr, ewch i'r ddolen yma i gael mwy o wybodaeth am yr MSc Gwyddor Data.