Mathemateg, MSc

Un o’r 201-250 o Raglenni Gorau yn y Byd

QS World University Rankings 2025

Gibin Powathil

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r MSc mewn Mathemateg yn ddelfrydol ar eich cyfer os ydych eisiau adeiladu ar eich BSc, ehangu eich gwybodaeth drwy ystod ehangach o bynciau, a dangos eich sgiliau ymchwilio i lenyddiaeth drwy wneud traethawd hir estynedig.

Rydych yn astudio elfennau gwahanol o fathemateg megis elfennau mathemategol o gyfrifiadura, ac yn datblygu eich sgiliau ymchwil, rheoli prosiectau a chyfathrebu'n ysgrifenedig. 

Mae ein cymorth arbenigol helaeth yn helpu i lywio eich traethawd hir i fod yn sylfaen wych ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol.

Wrth raddio byddwch yn fathemategydd gwybodus sydd â'r sgiliau profedig i gyflawni prosiect sylweddol ar eich pen eich hun. Mae hyn yn eich rhoi ar flaen y gad yn y farchnad swyddi sy'n gynyddol gystadleuol.

Pam Mathemateg ym Mhrifysgol Abertawe?

  • Un o’r 201-250 o Raglenni Gorau yn y Byd (QS World University Rankings 2025)
  • Cyfleusterau o safon fyd-eang ar gyfer gwyddorau mathemategol a chyfrifiadol
  • 100% yn arwain y byd ac yn rhagorol yn rhyngwladol - Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021

Eich profiad ym maes Mathemateg

Yn rhan gyntaf y cwrs byddwch yn astudio ystod eang o fodiwlau sy'n ymdrin â phynciau gan gynnwys prosesau stocastig, y theori codio algebraidd, theori Black-Scholes a geometreg ddifferol. Yn ail ran y cwrs byddwch yn cwblhau prosiect traethawd hir sylweddol.

Drwy gydol eich astudiaethau, byddwch yn cael eich asesu drwy gyfuniad o arholiadau ysgrifenedig, gwaith cwrs a thraethawd hir.

Cewch eich cefnogi drwy gydol eich astudiaethau gan gyfleusterau, megis prif Lyfrgell y Brifysgol – sy’n cynnwys casgliad helaeth o adnoddau mathemategol a'n Gwasanaethau Digidol.

Mae Ystafell Ddarllen Aubrey Truman hefyd ar gael ar eich cyfer yng nghanol yr adran. Dyma ble mae llyfrgell yr adran a’r ystafell gyfrifiaduron wedi'u lleoli.  

Cyfleoedd Cyflogaeth Mathemateg

Mae MSc mewn Mathemateg yn gwella eich rhagolygon gyrfa yn sylweddol. Mae cyrchfannau gyrfa poblogaidd yn cynnwys y proffesiwn, cyllid, technoleg a busnes actiwaraidd, lle mae galw am fathemategwyr am ddadansoddi ystadegol, swyddi ymchwil a datblygu.

Mae graddedigion diweddar Abertawe wedi'u cyflogi gan AXA, BA, Deutsche Bank, Shell Research, Awdurdodau Iechyd a Llywodraeth Leol.

Modiwlau

Yn gyntaf byddwch yn astudio ystod o fodiwlau sy'n ymdrin â phynciau gan gynnwys y theori codio algebraidd, biofathemateg, geometreg ddifferol a phrosesau stocastig. Byddwch wedyn yn cwblhau traethawd hir gwerth 60 o gredydau.