Mathemateg a Chyfrifiadureg ar gyfer Cyllid, MSc

Un o’r 201-250 o Raglenni Gorau yn y Byd

QS World University Rankings 2025

Students

Trosolwg o'r Cwrs

Dyluniwyd y MSc mewn Mathemateg a Chyfrifiadura ar gyfer Cyllid i ddiwallu'r galw am fathemategwyr cymwys ar gyfer marchnadoedd cyllid ac yswiriant byd-eang.

Mae gwir angen staff sydd â sgiliau mathemategol uwch a'r gallu i ddatblygu dealltwriaeth ym mhob agwedd ar y cwmni o farchnadoedd ariannol ansefydlog.

Byddwch yn astudio elfennau gwahanol o Fathemateg a Chyfrifiadura ac yn datblygu'ch ymchwil, eich sgiliau rheoli prosiectau, a'ch sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig.

Mae ein cymorth arbenigol helaeth yn helpu i lywio eich traethawd hir i fod yn sylfaen wych ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol.

Erbyn i chi raddio, byddwch yn fathemategwr gwybodus ac arbenigol gyda'r sgiliau profedig i gyflwyno prosiect sylweddol yn annibynnol a'r potensial i wneud gwahaniaeth mawr i unrhyw sefydliad.

Pam Mathemateg a Chyfrifiadura ar gyfer Cyllid yn Abertawe?

  • Un o’r 201-250 o Raglenni Gorau yn y Byd (QS World University Rankings 2025)
  • Cyfleusterau o safon fyd-eang ar gyfer gwyddorau mathemategol a chyfrifiadol
  • 100% yn arwain y byd ac yn rhagorol yn rhyngwladol - Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021

Eich Profiad Mathemateg a Chyfrifiadura ar gyfer Cyllid

I gychwyn, byddwch yn astudio amrywiaeth eang o fodiwlau sy'n cynnwys pynciau megis prosesau stocastig, damcaniaeth codio algebra, damcaniaeth tyllau du a mathemateg ar gyfer cyllid. Yn ail ran y cwrs, byddwch yn cwblhau prosiect traethawd hir sylweddol. Drwy gydol eich astudiaethau, byddwch yn cael eich asesu drwy gyfuniad o arholiadau ysgrifenedig, gwaith cwrs a thraethawd hir.

Cewch eich cefnogi drwy gydol eich astudiaethau gan gyfleusterau, megis prif Lyfrgell y Brifysgol, sy’n cynnwys casgliad helaeth o adnoddau mathemategol a'n Gwasanaethau Digidol.

Mae Ystafell Ddarllen Aubrey Truman hefyd ar gael ar eich cyfer yng nghanol yr adran. Dyma ble mae llyfrgell yr adran a’r ystafell gyfrifiaduron wedi'u lleoli.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Cyfleoedd Cyflogaeth ym maes Mathemateg a Chyfrifiadura ar gyfer Cyllid Mae MSc mewn Mathemateg a Chyfrifiadura ar gyfer Cyllid yn gwella eich rhagolygon gyrfa'n sylweddol. Mae llawer iawn o'n graddedigion yn gweithio yn y proffesiwn actiwari a'r maes cyllid, technoleg a busnes ac mae galw mawr am fathemategwyr mewn swyddi dadansoddi ystadegol, ymchwil a datblygu. Mae graddedigion diweddar o Brifysgol Abertawe wedi cael eu cyflogi gan AXA, BA, Deutsche Bank, Shell Research, awdurdodau iechyd a llywodraeth leol.

Modiwlau

Yn gyntaf, byddwch chi'n astudio amrywiaeth o fodiwlau sy'n cynnwys pynciau megis mathemateg ar gyfer cyllid, damcaniaeth tyllau du a damcaniaeth algorithmau. Yna, byddwch yn cwblhau prosiect traethawd.