Trosolwg o'r Cwrs
Bydd ein cwrs MSc mewn Darganfod, Datblygu a Throsi Cyffuriau yn sicrhau bod gennych yr arbenigedd sydd ei angen er mwyn meistroli’r broses gymhleth o ddarganfod a datblygu cyffuriau, o ddarganfyddiad cyntaf moleciwlau actif i drosi ymchwil yn driniaethau effeithiol.
Trwy gyfuniad o wybodaeth ddamcaniaethol a phrofiad ymarferol, byddwch chi'n dysgu sut i reoli prosiectau datblygu cyffuriau, gwneud penderfyniadau allweddol, a chymhwyso gwyddoniaeth drosiadol i ddod â therapïau arloesol o'r labordy i’r claf.
Mae'r rhaglen ôl-raddedig hon yn berffaith ar gyfer graddedigion sydd â chefndir mewn fferylliaeth, ffarmacoleg, cemeg neu'r biowyddorau, sy'n awyddus i wella eu sgiliau arweinyddiaeth ar gyfer y diwydiant fferyllol, neu ar gyfer y rhai hynny sy'n angerddol am ymchwil i ddatblygiad cyffuriau.