Medical Physics, MSc

Arloesi ymhellach mewn ffiseg feddygol

CT Scanner

Trosolwg o'r Cwrs

Os ydych chi’n fyfyriwr graddedig mewn peirianneg neu'r gwyddorau ffisegol sydd â diddordeb mewn cael gyrfa ym maes ffiseg feddygol sy'n tyfu'n gyflym, bydd ein cwrs MSc Ffiseg Feddygol yn rhoi'r wybodaeth ddamcaniaethol, y sgiliau ymarferol a'r ymwybyddiaeth broffesiynol ichi lwyddo.

P’un a ydych chi’n astudio ein cwrs ar sail amser llawn (blwyddyn) neu ran-amser (2 i 3 blynedd), byddwch chi’n astudio agweddau hanfodol ar y defnydd o ffiseg feddygol mewn meddygaeth, gyda chyfarwyddyd clinigol ymarferol mewn MRI, CT a chyflymyddion llinol meddygol. Byddwch chi hefyd yn ennill profiad mewn modelu cyfrifiadurol, methodoleg ymchwil, moeseg a rôl ehangach ffiseg feddygol mewn gofal iechyd.

Drwy gwricwlwm a gyfeirir gan fyfyrwyr, partneriaid yn y GIG ac ym myd diwydiant, byddwch chi’n elwa o asesiadau dilys yn y gweithle, opsiynau i astudio arbenigeddau uwch, a ffocws ar gyflogadwyedd, cynwysoldeb a chynaliadwyedd yn y gwyddorau gofal iechyd.

Pam Ffiseg Meddygol ym Mhrifysgol Abertawe?

  • 100% o effaith ein hymchwil yn rhagorol yn rhyngwladol (REF2021)
  • Partneriaethau cryf gyda GIG Cymru a diwydiant, gan sicrhau dysgu clinigol dilys
  • Cyfleusterau blaengar gan gynnwys therapi protonau ac MRI uwch
  • Wedi'i achredu gan yr IPEM, gan sicrhau cydnabyddiaeth ryngwladol a chredadwyedd proffesiynol

Eich Profiad Ffiseg Ymbelydredd Meddygol

Mae ein cwrs MSc yn cynnig amgylchedd dysgu cynhwysol, hyblyg a arweinir gan ymarfer. Gallwch chi deilwra eich dysgu i'ch arbenigedd penodol, boed hynny'n ffiseg radiotherapi, diogelwch ymbelydredd a radioleg ddiagnostig, meddygaeth niwclear neu ddelweddu gydag ymbelydredd di-ïoneiddio.

Mae ein cysylltiadau cryf â'r GIG, yr Ysgol Peirianneg a phartneriaid ym myd diwydiant yn cynnig cyfleusterau o'r radd flaenaf ichi ac amgylcheddau ymchwil effaith uchel gan gynnwys adeilad y Sefydliad Gwyddor Bywyd gwerth £100 miliwn a chyfleoedd am ymchwil ac arloesi rhyngddisgyblaethol. 

Cyfleoedd Cyflogaeth Ffiseg Ymbelydredd Meddygol

Mae ein cwrs MSc mewn Ffiseg Feddygol yn cynnig amgylchedd dysgu deinamig a rhyngddisgyblaethol â ffocws cryf ar ddysgu ymarferol a chyflogadwyedd. Yn ogystal ag ennill gwybodaeth fanwl yn eich arbenigedd i ddilyn uchelgeisiau eich gyrfa, byddwch hefyd yn datblygu'r sgiliau i gydweithio, i arloesi ac i arwain mewn tirwedd gofal iechyd sy'n datblygu'n gyflym ac yn gysylltiedig ledled y byd.

Mae graddedigion ein cwrs MSc wedi'u paratoi'n dda am yrfaoedd amrywiol mewn lleoliadau clinigol, academaidd a diwydiannol. Ar ôl cwblhau'r cwrs gallech chi symud ymlaen i Raglen Hyfforddiant Gwyddonydd y GIG, neu weithio ym maes delweddu diagnostig, mewn canolfannau radiotherapi, cyrff rheoleiddiol neu gwmnïau dyfeisiau meddygol. Efallai y byddwch chi hefyd am ddilyn llwybr ymchwil ar lefel PhD, gan gyfrannu at feysydd newydd megis therapi protonau a dulliau cynaliadwy o amddiffyn yn erbyn ymbelydredd.

Bydd ein hachrediad gan yr IPEM yn gwella eich cyflogadwyedd a'ch cydnabyddiaeth broffesiynol, nid yn unig yn y DU ond ar draws gyrfaoedd gwyddor gofal iechyd ledled y byd hefyd.

Modiwlau

Mae modiwlau craidd yn cynnwys gwyddor gofal iechyd sylfaenol, ffiseg feddygol mewn ymarfer a dulliau ymchwil. Mae modiwl sylfeini yn sicrhau bod myfyrwyr heb wybodaeth flaenorol am anatomeg a ffisioleg yn cael eu cefnogi. Mae modiwl y traethawd hir yn cynnwys sesiynau sy'n canolbwyntio ar yrfa ac ymchwil annibynnol sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau clinigol neu ddiwydiannol.