Trosolwg o'r Cwrs
Hoffech chi gael gyrfa fel ffisegydd meddygol sy'n cyfrannu'n uniongyrchol at driniaeth a gofal claf? Dyma rôl arbenigol yn y diwydiant iechyd sy'n cynnwys cyfleoedd i wneud gwaith labordy, ymchwil sylfaenol a chynhwysol, yn ogystal â rheoli ac addysgu.
Addysgir y radd tair blynedd MSc mewn Gwyddoniaeth Glinigol (Ffiseg Feddygol) yn yr Ysgol Feddygaeth ac mae'n adeiladu ar gydweithrediad sydd eisoes ar y gweill â'r GIG. Mae'n darparu'r prif lwybr i gymhwyso am deitl proffesiynol Gwyddonydd Clinigol ym maes Ffiseg Feddygol.
Mae’r rhaglen wedi’i hachredu gan Ysgol Genedlaethol Gwyddoniaeth Gofal Iechyd (NSHCS) ac mae'n darparu'r gydran academaidd o'r Rhaglen Hyfforddiant Gwyddonydd ar gyfer ffisegwyr meddygol dan hyfforddiant, o fewn y fframwaith Moderneiddio Gyrfaoedd Gwyddonol a ddiffiniwyd gan Adran Iechyd y DU.
Mae'r cwrs hwn yn cynnig cyfle i chi arbenigo mewn naill ai ffiseg radiotherapi neu ddiogelwch ymbelydredd. I fod yn gymwys am y radd hon, mae'n rhaid eich bod yn cael eich noddi gan y GIG neu ddarparwr gofal iechyd cyfatebol.