Gwyddor Biofeddygol (Microbioleg Glinigol), PGDip

Astudiwch yn Ysgol Feddygol Orau yn y DU

students in lab

Trosolwg o'r Cwrs

Gwyddor Fiomeddygol yw astudiaeth wyddonol integredig o faterion biolegol sy'n gysylltiedig â chefnogi diagnosis a gwaith trin gwahanol gyflyrau sy'n effeithio ar ansawdd bywyd pobl, ac mae'n broffesiwn adnabyddus a gwerthfawr wedi'i seilio ar dystiolaeth sy'n cynnwys ymagwedd gyfannol gydol oes at ddarparu diagnosis, asesu ac ymyraethau.

Bydd y cwrs hwn yn archwilio agweddau damcaniaethol ac ymarferol Microbioleg Glinigol yng nghyd-destun disgyblaeth ddiagnostig ac archwiliol Gwyddor Fiomeddygol, gan ddefnyddio ymagwedd dysgu cyfunol ac integredig sy'n defnyddio cymysgedd o addysgu ar y campws ac ymagweddau dysgu ar-lein. Byddai'r ymagwedd arloesol hon yn cefnogi ymhellach ddatblygiad eich profiad dysgu ochr yn ochr â chyflwyno sgiliau labordy ymarferol allweddol a'ch datblygiad ymarfer proffesiynol.

PAM ASTUDIO GWYDDOR FIOMEDDYGOL (MICROBIOLEG GLINIGOL) YM MHRIFYSGOL ABERTAWE?

  • Y 5 uchaf am ansawdd cyffredinol ymchwil (REF2021)
  • Mae gan fyfyrwyr ôl-raddedig fynediad at gyfleusterau yn adeilad y Sefydliad Gwyddor Bywyd gwerth £100 miliwn
  • Mae’r Sefydliad yn rhoi pwyslais ar ymchwil glinigol o bwys cymdeithasol trwy ei gysylltiadau â'r GIG ac â phartneriaid diwydiannol
  • Darperir yr addysgu mewn partneriaeth â Gwyddonwyr Biomeddygol y GIG
  • Cymorth o safon uchel ar gyfer prosiectau ymchwil gan fyfyrwyr MSc

EICH PROFIAD GWYDDORAU BIOMEDDYGOL ÔL-RADDEDIG (MICROBIOLEG GLINIGOL)

Fel rhan o'ch gradd cewch gyfle i ddefnyddio cyfleusterau o'r radd flaenaf. Mae Ystafelloedd Delweddu Clinigol y Sefydliad Gwyddor Bywyd rhwng campws Ysbyty Singleton a champws Prifysgol Abertawe. Mae ganddynt gyfleusterau delweddu 3T, MRI a CT cydraniad uchel.

Hefyd, byddwch yn elwa ar y berthynas waith agos rhwng Prifysgol Abertawe a'r GIG yng Nghymru. Bydd yn rhoi'r amgylchiadau delfrydol i chi ar gyfer addysgu ac ymchwil gydweithredol. Hefyd, mae gennym gysylltiadau cryf â Chyngor Ymchwil y DU, Llywodraeth Cymru a nifer o gysylltiadau cenedlaethol a rhyngwladol.

Y pynciau sy'n Debygol o Gael eu Hastudio.

Mae'r rhaglen yn cynnwys nifer o feysydd pwnc sy'n eich galluogi i ddatblygu a gwella eich gwybodaeth arbenigol am ficrobioleg glinigol drwy astudio ac archwilio micro-organeddau pathogenig, megis:

  • Ymchwil ac Arloesi
    • Sylfeini Gwyddor Fiomeddygol (gan gynnwys Ymarfer Da yn y Labordy, Diagnosteg, Anatomeg, Pathoffisioleg, Imiwnoleg, Haematoleg, Biocemeg, Geneteg, ymagweddau a thechnolegau arloesol ym maes gwyddor fiomeddygol)
    • Datblygu Ymarfer Proffesiynol
    • Microbioleg Glinigol a Chlefydau Heintus a Microbioleg Glinigol ar gyfer Gwyddonwyr Biomeddygol (gan gynnwys mecanweithiau pathogenig, microbioleg iechyd cyhoeddus, sgrinio, diagnosis, trin a monitro clefydau heintus, atal a rheoli heintiadau, therapïau triniaeth ac ymwrthedd i gyffuriau gwrthfiotig)
    • Traethawd Hir Ymchwil (dyfarniad MSc yn unig)

CYFLEOEDD CYFLOGAETH YM MAES GWYDDOR FIOMEDDYGOL (MICROBIOLEG GLINIGOL)

Mae'r cwrs wedi cael ei ddylunio i roi i chi brofiad academaidd sy'n heriol ond sy'n eich cyfoethogi, yr amcan yw y byddwch yn meithrin gyrfa yn sectorau'r Gwyddorau Biomeddygol a'r Gwyddorau Bywyd.

Bydd y cwrs hwn yn arfogi graddedigion â'r rhinweddau a'r galluoedd i ymgymryd ag astudiaethau pellach, cyflogaeth hynod fedrus neu gael mynediad at y proffesiynau. Bydd hyn yn cynnwys gofal iechyd, gwyddor fiomeddygol a'r gwyddorau bywyd yng Nghymru a'r tu hwnt.

Drwy feithrin sgiliau gwyddonol biomeddygol a rhinweddau ymarfer proffesiynol trosglwyddadwy, bydd y cwrs yn darparu sylfeini cryf a allai wella rhagolygon cyflogaeth a'ch paratoi fel graddedigion ar gyfer dysgu gydol oes drwy ddatblygiad proffesiynol parhaus.

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Cynnig Nodweddiadol

2:2