Gwyddor Data Iechyd, MSc / PGDip / PGCert

Llywio Gwelliannau Iechyd drwy Brosesu Data ar Raddfa Fawr

Llywio Gwelliannau Iechyd drwy Brosesu Data ar Raddfa Fawr

Health Data Science Students

Trosolwg o'r Cwrs

Bydd ein cwrs gradd MSc mewn Gwyddor Data Iechyd yn rhoi'r sgiliau i chi ddefnyddio data iechyd i wella ansawdd bywyd mewn poblogaeth gyfan.

Mae'r cwrs wedi'i ddylunio i roi'r wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth y gellir eu defnyddio ar draws amrywiaeth o feysydd gofal iechyd.

Cewch eich addysgu gan academyddion ac ymchwilwyr blaenllaw yn fyd-eang ym maes gwyddor data iechyd, ystadegau, epidemioleg, omeg, dysgu peirianyddol a cysylltedd data ym maes gofal iechyd.

Byddwch chi'n dysgu sut i ddadansoddi data iechyd a data sy'n ymwneud ag iechyd a dehongli perthnasoedd a phatrymau yn y data. Byddwch chi hefyd yn rhyngweithio â myfyrwyr o gefndiroedd a disgyblaethau addysgol amrywiol o ledled y byd.

Pam astudio Gwyddor Data Iechyd ym Mhrifysgol Abertawe?

  • Ein hymchwil sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang yw'r rheswm ein bod ymhlith y 5 sefydliad ymchwil gorau yn y DU yn rheolaidd.
  • Byddwch yn ennill sgiliau technegol perthnasol a throsglwyddadwy, ac yn meistroli meddalwedd i weithio â data iechyd a'i drin. Byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio a chymhwyso dulliau ystadegol a dysgu peirianyddol uwch â data’r byd go iawn.
  • Gallwch ddewis gradd naill ai ar sail amser llawn am flwyddyn neu ran-amser dros ddwy flynedd.
  • Byddwch yn gweithio ar eich prosiect traethawd estynedig gydag un o'r arbenigwyr blaenllaw niferus ym maes ymchwil data iechyd.
  • Bydd gennych fynediad at ddysgu drwy brofiad ymarferol gan y gweithwyr proffesiynol sy'n gyfrifol am y Gronfa Ddata Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL), prosiect enghreifftiol yn y DU ar gyfer cloddio data gofal iechyd ar raddfa fawr mewn amgylchedd diogel.

Eich profiad Gwyddor Data Iechyd

Bydd profiad eich gradd yn cael ei gyfoethogi gan fynediad at gyfleusterau o'r radd flaenaf ar gyfer dadansoddi data iechyd a leolir yn ein hadeilad Gwyddor Data Iechyd gwerth £100 miliwn.

Cyfleoedd Cyflogaeth Gwyddor Data Iechyd

Rydym ni wedi dylunio’r cwrs yn ofalus i ddarparu gwybodaeth a dealltwriaeth well i chi o Wyddor Data Iechyd a’r sgiliau a’r galluoedd y mae eu hangen arnoch i ddefnyddio’r hyn a ddysgwch wrth ymarfer yn broffesiynol. 

O ganlyniad, bydd y radd Meistr hon yn rhoi gwybodaeth drylwyr i chi o’r maes, gan wella eich rhagolygon am ddilyniant gyrfa o bosib. 

Modiwlau

Yn gyffredinol, mae modiwlau'n cynnwys: Dysgu Peiriannau mewn Gofal Iechyd a Chyfrifiadura Gwyddonol mewn Gofal Iechyd.  

Mae myfyrwyr sydd yn dechrau ym mis Medi neu Ionawr yn astudio’r run modiwlau craidd fel rhan o’r rhaglen. Mae dyddiadau Ionawr i’w cadarnhau.