Nanofeddygaeth, MSc / PGDip / PGCert

Manteisio ar Nanodechnoleg i ysgogi Datblygiadau mewn Gofal Iechyd

Nanomedicine Students

Trosolwg o'r Cwrs

A ydych chi'n raddedig gyda gradd mewn bioleg celloedd a moleciwlaidd, geneteg a biocemeg, biocemeg, biocemeg feddygol, fferyllol, peirianneg feddygol neu ffiseg? A ydych chi'n dymuno defnyddio'r wybodaeth hon ym meysydd meddygol neu wyddor bywyd? Gallwch wella'ch rhagolygon gyrfa drwy astudio Nanofeddygaeth, gan ryngwynebu gyda meddygaeth glinigol, ferylleg, meddygaeth adfywiol a nano(geno)docsicoleg.

Mae galwadau ac ymwybyddiaeth gynyddol o gymwysiadau nanodechnoleg ym maes Meddygaeth wedi arwain at ddatblygiad maes Nanofeddygaeth. Gan fanteisio ar y Ganolfan NanoIechyd (CNH) gwerth £22 miliwn, mae'r cwrs yn cael ei gyflwyno gan grŵp o wyddonwyr ymchwil blaenllaw yn yr ysgol feddygaeth orau o ran amgylchedd ymchwil y DU. Ar y cyd â chlinigwyr, arweinwyr diwydiannol ac arbenigwyr o ran arloesedd ymchwil a throsglwyddo technoleg, mae'r cwrs yn cynnig cyfle i astudio a chwarae rôl yn y cyfraniadau sylweddol y mae nanodechnoleg yn eu cynnig o ran gwella diagnosis, trin ac atal clefydau.

Mae'n addas i unrhyw un â gradd sy'n gysylltiedig â'r gwyddorau bywyd sy'n anelu at gyflogaeth yn y diwydiant fferyllol neu am yrfa ymchwil drwy PhD, a bydd myfyrwyr yn mynd i'r afael ag arloesi â chymorth nanodechnoleg ym maes meddygaeth foleciwlaidd, datblygu cyffuriau, rhoi cyffuriau uwch a delweddu/diagnosteg.Mae cynhyrchio fferyllol a therapiwteg uwch wedi'u gwreiddio ar draws y themâu hyn. Mae gennym ddau faes ffocws, sef meddygaeth adfywiol a nano-(geno)docsicoleg sy'n gysylltiedig â themâu craidd yr Ysgol. Mae'r meysydd hyn wedi'u hatgyfnerthu gan arbenigedd peirianneg a gwyddoniaeth, gan arwain at brosiect ymchwil labordy amlddisgyblaethol wedi'i seilio ar fodiwlau ystadegau/gwybodeg ymrwymedig a dyluniad/moeseg ymchwil.

Pam Nanofeddygaeth ym Mhrifysgol Abertawe?

Cewch eich addysgu gan academyddion a gwyddonwyr ymchwil o’r radd flaenaf sy’n dod â disgyblaethau gan gynnwys peirianneg, gwyddoniaeth a meddygaeth at ei gilydd yn ein cyfleusterau ymchwil o safon fyd-eang, y Sefydliad Gwyddor Bywyd. Bydd myfyrwyr Nanomeddygaeth yn ymgysylltu â chlinigwyr trwy bartneriaethau sefydledig gyda Byrddau Iechyd lleol tra'n elwa ar fynediad i'n Sefydliad Gwyddor Bywyd gwerth £100miliwn, sydd yn y 5ed safle uchaf ar gyfer ansawdd ymchwil cyffredinol (REF2021). Gyda chlinigwyr, arweinwyr diwydiant ac arbenigwyr mewn arloesi ymchwil a throsglwyddo technoleg yn ymuno â nhw, mae'r MSc mewn Nanomeddygaeth yn cynnig cyfle unigryw i astudio a chwarae rhan yn y cyfraniadau sylweddol y mae nanotechnoleg yn eu cyflwyno i ddatblygiadau mewn diagnosis, trin ac atal afiechyd.

Trwy berthnasoedd agos â Chymdeithas Nanomeddygaeth Prydain, byddwn yn caniatáu i'n myfyrwyr gorau astudio dramor yn unol â'n partneriaethau strategol rhyngwladol. Mae llawer o'n myfyrwyr wedi symud ymlaen i astudio Meddygaeth i Raddedigion, neu wedi mynd i rolau ymchwil i gwblhau PhD. Mae’r berthynas amlddisgyblaethol agos â phrosiectau ymchwil fel PATROLS, CALIN a’r Sefydliad Gwyddor Bywyd yn caniatáu i’n myfyrwyr sefydlu perthnasoedd a rhwydweithio ag academyddion ar draws ehangder ymchwil yn yr Ysgol Feddygaeth.

Eich Profiad Nanofeddygaeth

O'r eiliad y cyrhaeddwch yr Ysgol Feddygaeth, bydd ein staff arbenigol yn eich helpu i gynllunio a pharatoi ar gyfer eich dyfodol drwy nodi a datblygu sgiliau a fydd yn eich galluogi i wneud y mwyaf o'ch gradd ôl-raddedig a gwella'ch rhagolygon gyrfa. 

Bydd gennych y cyfle i ymgymryd ag ymchwil gydweithredol ar y cyd â diwydiant, gan gynnwys cwmnïoedd  dyfeisiau meddygol technegol uchel; yn Athrofa Gwyddor Bywyd yr Ysgol Feddygaeth.  

Bydd y rhaglen yn rhoi hyfforddiant ymarferol wedi'i seilio ar dystiolaeth gyffredinol gyda modiwlau ychwanegol sy'n ystyried meysydd y mae'r Ganolfan NanoIechyd yn arbenigo ynddynt, gan gynnwys; Cynhyrchio fferyllol a therapiwteg arloesoldatblygu cyffuriau ac ystyriaethau rheoleiddio, delweddu a diagnosteg dylunio ymchwil, moeseg a gweithrediad, llwyfannau ystadegol a dadansoddi data ar gyfer cymwysiadau gwyddor bywyd, nano(geno) docsicolegbioddeunyddiau a meddygaeth adfywiol, oll wedi'u haddysgu gan ymchwilwyr blaenllaw yn y maes. 

Ar raglen yr MSc, cewch eich annog i ryngweithio â'r gymuned nanodechnoleg a nanofeddygaeth ehangach drwy ymaelodi â Chymdeithas Nanofeddygaeth Prydain a mynychu'r cynadleddau/seminarau blynyddol.  

Cyfleoedd Cyflogaeth NanoFeddygaeth

Dyluniwyd gradd ôl-raddedig i roi'r holl sgiliau trosglwyddadwy sy'n cael eu hystyried yn werthfawr mewn gweithle i'n myfyrwyr. Mae'n hethos, a arweinir gan ymchwil, yn sicrhau bod myfyrwyr yn ystyried ffiniau gwybodaeth wyddonol, ac mae'r cydrannau ymarferol dwys yn darparu hyfforddiant cadarn mewn sgiliau technegol arloesol sy'n cael eu defnyddio yn y biowyddorau modern (gyrfa wyddonol neu ymchwil glinigol ym meysydd nanofeddygaeth a therapiwteg uwch) wrth weithio mewn meysydd o arbenigedd blaenllaw yn yr Ysgol. 

Mae'r cwrs Nanofeddygaeth yn apelio at bob sector ym maes y gwyddorau bywyd. Mae gennym fyfyrwyr sydd wedi cwblhau'r cwrs ac wedi symud ymlaen i ddiwydiant, academia (PhD) a galwedigaethau proffesiynol. Mae'r rhan fwyaf yn aros yn academia, mae rhai yn gwneud PhD mewn maes mwy penodol sy'n gysylltiedig â nanofeddygaeth, ac mae eraill yn mynd ymlaen i Feddygaeth i Raddedigion.  Mae rhai wedi mynd ymlaen i faes diwydiant, gydag amrywiaeth o gwmnïoedd biofferyllol i fiodechnolegol ym meysydd profi a datblygu cyffuriau/technoleg.

Modiwlau

Mae'r MSc mewn Nanomeddygaeth yn golygu astudio am 120 credyd o fodiwlau a addysgir, fel y nodir isod. Mae'r gydran a addysgir yn digwydd yn ystod tymhorau'r hydref a'r gwanwyn. Mae prosiect ymchwil 60 credyd yn cael ei gynnal dros fisoedd yr haf. Mae modiwlau'n darparu hyfforddiant ymarfer cyffredinol yn seiliedig ar dystiolaeth ynghyd â modiwlau ar;

  • Research Innovation and Management (10)
  • Nanomedicine, Pharmaceuticals and Advanced Therapeutics (20)
  • Diagnostics and Imaging (10)
  • Nano(geno) toxicology (20)
  • Analytical Techniques for Medicinal Chemistry and Nanomedicine (20)
  • Data Analysis for Health and Medical Sciences (20)
  • Regenerative Medicine (20)

Bydd myfyrwyr sy'n dechrau ym mis Medi neu fis Ionawr yn astudio'r un modiwlau craidd fel rhan o'r rhaglen. Dyddiadau derbyn mis Ionawr i'w cadarnhau.