Ymarfer Diabetes, MSc / PGDip / PGCert

Datblygu Gwybodaeth, Sgiliau Clinigol a Phrofiad i Wella Gofal Diabetes

Diabetes Students

Trosolwg o'r Cwrs

Os ydych chi'n weithiwr proffesiynol â diddordeb arbenigol mewn diabetes neu os hoffech chi ddatblygu'ch gwybodaeth a'ch sgiliau yn y maes hwn, bydd ein rhaglen MSc Ymarfer Diabetes bwrpasol yn cryfhau'ch ddealltwriaeth a'ch sgiliau clinigol. 

Dyma raglen dysgu o bell hyblyg sydd wedi'i llunio i gyd-fynd â'ch bywyd gwaith prysur. Bydd ein cwricwlwm amlddisgyblaethol yn cyfuno dysgu ar-lein o bell â sgiliau ymarferol a gyflwynir mewn dau weithdy preswyl pum niwrnod o hyd.  

Bydd y rhaglen unigryw hon, a ddyluniwyd ag anghenion nyrsys diabetes arbenigol y dyfodol mewn cof, yn rhoi gwybodaeth sylfaenol ac uwch mewn sgiliau clinigol, profiad ac ymddygiad proffesiynol i chi, a bydd yn mynd i'r afael â bylchau yn yr wybodaeth honno i fynd i'r afael ag anghenion iechyd a gofal pobl â diabetes. Byddwch hefyd yn datblygu dealltwriaeth gynhwysfawr o driniaethau diabetes, technolegau perthnasol a sefyllfaoedd gwahanol a allai effeithio ar reoli'r clefyd.

Pam Ymarfer Diabetes ym Mhrifysgol Abertawe?

  • Y 5 uchaf am ansawdd cyffredinol ymchwil (REF2021)
  • Dyluniwyd y rhaglen hon i ddiwallu anghenion timoedd diabetes amlddisgyblaethol mewn gofal cynradd ac eilradd 
  • Fe'i hasesir drwy aseiniadau sy'n gysylltiedig â phob modiwl i'w cyflwyno ar-lein 
  • Ar gyfer yr elfen Meistr, gallwch ddewis portffolio sy'n seiliedig ar waith neu draethawd hir 
  • Bwrsariaeth ar gael drwy Lywodraeth Cymru 
  • What Uni? Enillydd Dewis Myfyriwr 2017 – Ôl-raddedig 

Eich Profiad Ymarfer Diabetes

Dyluniwyd ein cwrs dysgu o bell i gyd-fynd â'ch bywyd gwaith drwy gynnwys cymysgedd o ddarlithoedd ar sail gwybodaeth a gweithdai ymarferol. Caiff eich dysgu ei atgyfnerthu gan ddeunydd addysgu rhyngweithiol, senarios dysgu seiliedig ar broblemau ac astudiaethau achos ar sail glinigol. Gellir cwblhau eich traethawd hir neu bortffolio gweithle drwy gydol y rhaglen dwy flynedd o hyd.

 

'Mae'r rhaglen MSc Ymarfer Diabetes yn unigryw ac yn arloesol, ac fe'i dyluniwyd gydag anghenion nyrsys diabetes arbenigol y dyfodol mewn cof.  Bydd y rhaglen bwrpasol hon yn helpu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i ddatblygu gwybodaeth am ddiabetes, ei driniaethau, ei dechnolegau a sefyllfaoedd gwahanol a allai effeithio ar ei reolaeth.'  

Mrs Julie Lewis, Nyrs Diabetes Arbenigol ac Arweinydd Clinigol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr  

Cyfleoedd Cyflogaeth Ymarfer Diabetes

Dyluniwyd y rhaglen i'ch darparu â gwybodaeth a dealltwriaeth uwch o ofal diabetes ynghyd â'r sgiliau y mae eu hangen arnoch i ddefnyddio'r hyn a ddysgir gennych yn eich ymarfer proffesiynol. 

O ganlyniad, bydd y rhaglen Meistr hon yn rhoi gwybodaeth drylwyr i chi o ofal diabetes er mwyn gwella'ch rhagolygon dilyniant gyrfa. 

Modiwlau

Yn gyffredinol, mae modiwlau'n cynnwys: Cymhlethdodau Diabetes a Sefyllfaoedd Diabetes  

Mae myfyrwyr sydd yn dechrau ym mis Medi neu Ionawr yn astudio’r run modiwlau craidd fel rhan o’r rhaglen. Mae dyddiadau Ionawr i’w cadarnhau.