Peirianneg Biofeddygol, MSc

Technoleg Feddygol a Biobeirianneg

Myfyriwr Peirianneg Fiofeddygol mewn labordy

Trosolwg o'r Cwrs

Bydd y radd hon yn eich dysgu sut i ddefnyddio technegau peirianneg i ddeall systemau biofeddygol neu i ddatblygu dyfeisiau sy'n rhyngweithio gyda systemau biofeddygol. Mae hyn yn berthnasol i raddfa fawr poblogaethau neu'r corff dynol yn ei gyfanrwydd, i raddfeydd llai celloedd neu hyd yn oed nanoronynnau. Rydym yn darparu dwy ffrwd cwrs y gellir eu dewis gan y myfyrwyr:

  1. Biofecaneg; Gyda phwyslais ar fecaneg biosolidau, deinameg biohylifau a dylunio dyfeisiau meddygol.
  2. Bioddeunyddiau; Gyda phwyslais ar ddatblygu bioddeunyddiau ar raddfa micro a nano a rhyngweithio â nhw.

Bydd y ddwy ffrwd yn darparu'r sgiliau dadansoddi ac arbrofi cysylltiedig i'r myfyrwyr er mwyn iddynt fynd i'r afael â phroblemau nodweddiadol a geir mewn peirianneg fiofeddygol. Bydd y myfyriwr yn cael ei hyfforddi drwy brofiadau ymarferol ar gyfer caffael data a thrwy dechnegau dadansoddi data uwch er mwyn astudio’r data a gesglir.

Mae'r rhaglen MSc yn darparu profiad ôl-raddedig gwych i fyfyrwyr sydd â gradd israddedig ym maes Peirianneg Fiofeddygol ond mae hefyd yn gyfle gwych i'r rhai sydd â graddau israddedig mewn meysydd peirianneg eraill neu ddisgyblaethau cysylltiedig i’w astudio fel cwrs trosi. Naill ffordd neu'r llall, bydd y cwrs hwn yn eich gosod ar y trywydd cywir ar gyfer gyrfa fel peirianwr yn y gwyddorau bywyd neu'r diwydiant dyfeisiau meddygol.

Pam Peirianneg Biofeddygol yn Abertawe?

  • Ystyriwyd bod 100% o’r amgylchedd yn arwain y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol – Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021

Eich Profiad Peirianneg Biofeddygol

Nod y cwrs yw hyfforddi myfyrwyr i fod yn beirianwyr cyflawn gyda set eang o sgiliau. Felly, bydd y modiwlau a ddarperir yn cyfuno sgiliau damcaniaethol, sgiliau arbrofol a sgiliau meddalwedd â sgiliau meddal trosglwyddadwy megis gweithio mewn grŵp, rheoli amser/prosiect a chyfathrebu.

Mae’r pynciau technegol sy’n debygol o fod yn y rhaglen yn cynnwys Cynhyrchu Bioddeunyddiau sy’n seiliedig ar ddelwedd a Phrofi Biofecanyddol, Egwyddorion NanoFeddygaeth, Delweddu Meddygol, Prostheteg a Dylunio, Microhylifeg Uwch, Delweddu a Gwybodeg Feddygol, Peirianneg Meinwe, Dylunio â Chymorth Cyfrifiadur, Strwythurau a Dyfeisiau Nano-Raddfa.

Yn ogystal, bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau cyffredinol sy'n berthnasol i ddiwydiant megis Dulliau Ymchwil, Cynllunio Prosiect Strategol a Chyd-destun Cymdeithasol, Amgylcheddol ac Economaidd Ymchwil.

Byddwch yn astudio mewn cymuned ymchwil ffyniannus. Mae hyn yn cynnwys y Labordy Efelychu a Phrofi Peirianneg Fiofeddygol (BEST), sy'n fan gwych lle gall ymchwilwyr rhyngddisgyblaethol ddatblygu syniadau, o’r cysyniad i weithgynhyrchu, offeru a phrofi.

Cyfleoedd Cyflogaeth Peirianneg Biofeddygol

Mae dysgu gwybodaeth arbenigol ym maes Peirianneg Fiofeddygol yn darparu ystod o gyfleoedd gyrfa cyffrous, gan gynnwys:

Peiriannydd Biofeddygol, Peiriannydd/Gwyddonydd Clinigol, Peiriannydd Adsefydlu, Peiriannydd Dylunio Prosthetig, Peiriannydd Cymhwysiad Dyfeisiau Meddygol, Peiriannydd Offeryniaeth.

Mae ein graddedigion yn mynd ymlaen i gael gyrfaoedd diddorol ac amrywiol gyda chwmnïau megis, Renishaw, Calon Cardio-Technology Ltd, Olympus Surgical Technologies, y GIG, GE Healthcare a'r Llynges Frenhinol.

Modiwlau

Mae’r pynciau technegol sy’n debygol o fod yn y rhaglen yn cynnwys Cynhyrchu Bioddeunyddiau sy’n seiliedig ar ddelwedd a Phrofi Biofecanyddol, Egwyddorion NanoFeddygaeth, Delweddu Meddygol, Prostheteg a Dylunio, Microhylifeg Uwch, Delweddu a Gwybodeg Feddygol, Peirianneg Meinwe, Dylunio â Chymorth Cyfrifiadur, Strwythurau a Dyfeisiau Nano-Raddfa.