Peirianneg Gemegol, MSc

Un o’r 251 - 300 o Raglenni Gorau yn y Byd

QS World University Rankings 2025

Chemical

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r MSc mewn Peirianneg Gemegol yn cynnig dealltwriaeth ddatblygedig a systemataidd o'r maes, gan sicrhau eich bod yn meddu ar yr ymwybyddiaeth a'r ddealltwriaeth ofynnol i ddod yn beiriannydd cemegol credadwy.

Mae ein cwrs yn seiliedig ar amrywiaeth eang o waith ymchwil uchel ei barch, o feysydd peirianneg gemegol uwch penodol i reoliadau cymhleth sy'n berthnasol i'r gweithle.

Mae eich prosiect ymchwil yn cynnig cyfle i gydweithio ag aelod o staff academaidd arbenigol sy'n arbenigo mewn meysydd ymchwil penodol, a gall hefyd gynnwys cydweithio â'r diwydiant.

Pam Peirianneg Gemegol ym Mhrifysgol Abertawe?

Mae'r adran Peirianneg Gemegol ym Mhrifysgol Abertawe yn adran arbennig sy'n apelio'n eang at amrywiaeth o randdeiliaid ledled y byd.

A wyddoch chi?

  • Un o’r 251 - 300 o Raglenni Gorau yn y Byd (QS World University Rankings 2025)
  • 100% yn arwain y byd ac yn rhagorol yn rhyngwladol - Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021

Eich profiad ym maes Peirianneg Gemegol

Bydd eich astudiaethau yn canolbwyntio ar themâu prosesau peirianneg, megis prosesau gwahanu, systemau hylif, trosglwyddo màs a nodweddion deunyddiau, y mae pob un ohonynt yn manteisio ar ein cryfderau ymchwil.

Gall meithrin eich gwybodaeth a'ch cymwyseddau technegol dros gyfnod o ddwy flynedd arwain at waith ymchwil helaeth pellach, neu at yrfa mewn peirianneg gemegol neu mewn diwydiannau cysylltiedig.

Caiff eich astudiaethau eu cyfoethogi gan gymuned ryngwladol o dros 500 o fyfyrwyr ôl-raddedig a 120 o aelodau o staff ymchwil yn y Coleg Peirianneg.

Ceir cymorth astudio pellach drwy fynediad 24 awr i'n llyfrgell ar y safle, labordai cynhwysfawr, rhaglen o ddarlithoedd gwadd drwy gydol y flwyddyn, ac ystafelloedd gwaith penodedig i fyfyrwyr ôl-raddedig.

Cyfleoedd cyflogaeth ym maes Peirianneg Gemegol

Mae graddedigion MSc mewn Peirianneg Gemegol ym Mhrifysgol Abertawe mewn sefyllfa gadarn i fanteisio ar gyfleoedd ysgogol a gwerthfawr. Gallai eich dyfodol fod yn unrhyw un o'r rolau canlynol.

  • Peiriannydd cemegol
  • Peiriannydd ynni
  • Peiriannydd petrolewm
  • Gwyddonydd datblygu cynhyrchion/prosesau
  • Peiriannydd mwyngloddio
  • Rheolwr safle technegol

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Cynnig Nodweddiadol

2.2