Trosolwg o'r Cwrs
Mae'r radd MSc hon mewn Gwyddor Perfformiad Chwaraeon Uwch wedi datblygu enw da am baratoi myfyrwyr yn llwyddiannus am gyflogaeth mewn chwaraeon perfformiad uchel neu eu datblygu at raddau ymchwil doethurol (PhD).
Yn y bôn, mae'r rhaglen hon yn galluogi myfyrwyr i feithrin yr wybodaeth ddamcaniaethol a'r sgiliau ymarferol ar draws meysydd gwyddor perfformiad. Bydd myfyrwyr yn datblygu cymwyseddau craidd ar draws meysydd gwyddor data gymhwysol, gwyddor hyfforddi, gwyddor adfer, strategaethau ar ddiwrnod cystadlu a chynllunio perfformiad.
Yn unigryw i'r radd hon, mae'n cynnwys lleoliad gwaith 12 mis gydag un o'n partneriaid yn y sector diwydiannol mewn pêl-droed elît, rygbi, nofio, tenis a dadansoddeg data cymhwysol. Mae'r profiadau lleoliadau gwaith amhrisiadwy hyn yn gwella rhagolygon cyflogadwyedd ein myfyrwyr, gan baratoi ein graddedigion i ddilyn eu llwybr gyrfa dymunol.