Peirianneg Deunyddiau, MSc

Un o’r 131 o Raglenni Gorau yn y Byd

QS World University Rankings 2025

Industry

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r MSc mewn Peirianneg Ddeunyddiau yn rhoi dealltwriaeth fanwl i chi o'r maes, ac amrywiaeth o alluoedd sydd eu hangen i fodloni gofynion y diwydiant deunyddiau rhyngwladol.

Mae'r cwrs MSc hwn wedi'i achredu gan y Sefydliad Deunyddiau, Mwynau a Mwyngloddio (IOM3) ac wedi'i lywio gan arbnigedd ymchwil o'r radd flaenaf ym Mhrifysgol Abertawe ym maes deunyddiau ar gyfer cymwysiadau awyrofod a thechnoleg dur.

Mae'r cwrs hwn yn cynnig cyfle i chi wneud ail flwyddyn ychwanegol ar gyfer Prosiect neu Leoliad Gwaith ym myd diwydiant, gan roi profiad gwaith gwerthfawr i chi a'r cyfle i wella sgiliau technegol a rhyngbersonol.

Mae cymorth ac arweiniad ar gael i helpu i sicrhau eich lleoliad gwaith ond nid yw hyn wedi'i warantu. Ffioedd cwrs yr ail flwyddyn yw £3600 i fyfyrwyr rhyngwladol a £1800 i fyfyrwyr cartref. Gweler rhagor o fanylion am Sut i Gyflwyno Cais am yr MSc gyda Diwydiant isod.

Pam Peirianneg Ddeunyddiau ym Mhrifysgol Abertawe?

Y Ganolfan Ymchwil Deunyddiau ym Mhrifysgol Abertawe yw'r ganolfan fwyaf arloesol yn y DU ar gyfer addysg a gwaith ymchwil ym maes peirianneg deunyddiau, ac fe'i hariennir gan sefydliadau arbennig megis Rolls-Royce, Airbus, yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd a Tata Steel.

A Wyddoch Chi?

Mae un o ganolfannau mwyaf blaenllaw'r DU ar gyfer addysg ac ymchwil defnyddiau wedi'i lleoli ar safle Prifysgol Abertawe. Mae'r ymchwil defnyddiau a wneir ym Mhrifysgol Abertawe, sydd ar flaen y gad yn rhyngwladol, yn cael ei ariannu gan sefydliadau uchel eu parch, gan gynnwys Rolls-Royce.

  • Un o’r 131 o Raglenni Gorau yn y Byd (QS World University Rankings 2025)
  • 100% yn arwain y byd ac yn rhagorol yn rhyngwladol - Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021

Eich profiad ym maes Peirianneg Ddeunyddiau

Caiff eich profiad o'r MSc mewn Peirianneg Ddeunyddiau ei ddiffinio gan hyfforddiant arbenigol mewn amrywiaeth o feysydd pwnc.

Mae'r rhain yn cynnwys meteleg a dewis deunyddiau, dulliau modern ar gyfer dylunio a dadansoddi peirianneg, polymerau a materion a thechnegau rheoli busnes modern.

Caiff eich astudiaethau eu cyfoethogi gan gymuned ryngwladol o dros 500 o fyfyrwyr ôl-raddedig a 120 o aelodau o staff ymchwil yn y Peirianneg.

Ceir cymorth astudio pellach drwy fynediad 24 awr i'n llyfrgell ar y safle, labordai cynhwysfawr, rhaglen o ddarlithoedd gwadd drwy gydol y flwyddyn, ac ystafelloedd gwaith penodedig i fyfyrwyr ôl-raddedig.

Cyfleoedd cyflogaeth ym maes Peirianneg Ddeunyddiau

Mae graddedigion MSc mewn Peirianneg Ddeunyddiau ym Mhrifysgol Abertawe mewn sefyllfa dda i fanteisio ar gyflogaeth werthfawr. Gallai eich dyfodol fod yn unrhyw un o'r rolau canlynol.

  • Peiriannydd deunyddiau
  • Metelegydd
  • Gwyddonydd datblygu cynhyrchion
  • Gwyddonydd ymchwil
  • Peiriannydd biofeddygol
  • Peiriannydd systemau gweithgynhyrchu
  • Archwilydd patent
  • Rheolwr ansawdd
  • Gwyddonydd datblygu prosesau

Modiwlau

Mae blwyddyn gyntaf y radd MSc yn cynnig amrywiaeth o fodiwlau 10-credyd gorfodol a dewisol ar bynciau sy'n cynnwys prosesu polymerau, gweithgynhyrchu ychwanegion, peirianneg ddeunyddiau awyrofod, meteleg ffisegol duriau, a systemau cynhyrchu pŵer, yn ogystal â phrosiect grŵp dewisol 30-credyd.

Byddwch yn treulio eich ail flwyddyn gyfan yn cwblhau prosiect traethawd hir ym maes peirianneg ddeunyddiau, sydd werth 60 o gredydau.