Trosolwg o'r Cwrs
Mae gan y rhaglen hon ofynion penodol wrth wneud cais ac mae’n cynnwys cyfweliad felly cyfeiriwch at yr adran ‘Sut i Wneud Cais’ isod cyn cyflwyno’ch cais. Nifer cyfyngedig o leoedd sydd gan y rhaglen felly argymhellir i ymgeiswyr wneud cais cyn gynted â phosibl.
Ydych chi wedi'ch swyno gan seicoleg trosedd ac ymchwilio troseddol? Ydych chi eisiau dysgu am y rhai sy'n troseddu a sut y gallem feithrin byw heb drosedd? Hoffech chi ddeall mwy am ymarfer proffesiynol fel seicolegydd fforensig? Dyluniwyd y radd feistr hon i ddarparu sylfaen drylwyr mewn Seicoleg Fforensig fel sy'n ofynnol ar gyfer hyfforddiant Cam 1 fel seicolegydd fforensig wedi'i achredu gan Gymdeithas Seicolegol Prydain.
Yn yr MSc hwn byddwch yn datblygu ac yn cymhwyso gwybodaeth seicoleg i brosesau ymchwilio troseddol, gan weithio gyda'r rhai sy'n troseddu ac yn gweithio gyda gweithwyr proffesiynol eraill yn y system cyfiawnder troseddol. Byddwch hefyd yn ymgymryd â phrosiect ymchwil ar raddfa fawr lle byddwch yn archwilio maes theori ac ymarfer seicoleg fforensig.
Mae gan y cwrs hwn gysylltiadau rhagorol â gwasanaethau statudol a thrydydd sector fel y gwasanaeth prawf, carchar, iechyd meddwl fforensig a gwasanaethau'r trydydd sector. Mae staff o'r timau hyn yn chwarae rhan weithredol yn y gwaith o ddarparu addysgu a chyfleoedd i fyfyrwyr ymchwilio ar y rhaglen hon.