Seicoleg (Trosiad), MSc

Barnwyd bod 100% o'n heffaith ymchwil yn arwain y byd

Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021

student

Trosolwg o'r Cwrs

Ydych chi'n fyfyriwr graddedig â gradd mewn maes gwahanol ond yn frwdrydig am seicoleg? Y rhaglen yw eich porth i yrfa newydd. Mae'r cwrs wedi'i deilwra i unigolion sydd am symud i faes seicoleg.

Mae'r rhaglen MSc hon yn cwmpasu’r feysydd seicoleg craidd, gan gynnwys:

  • Seicoleg Wybyddol: deall gweithrediad y meddwl dynol
  • Seicoleg Gymdeithasol: archwilio sut mae unigolion yn dylanwadu ar eraill a sut mae eraill yn dylanwadu arnyn nhw
  • Seicoleg Ddatblygiadol: astudio twf seicolegol a newidiadau ar hyd oes
  • Seicoleg Fiolegol: dysgu am seiliau biolegol ymddygiad
  • Gwahaniaethau Unigol: ymchwilio i agweddau amrywiol ar bersonoliaeth a deallusrwydd
  • Dulliau Ymchwil: meistroli'r technegau a'r methodolegau sy'n hanfodol ar gyfer ymchwil seicolegol

Gallwch feithrin dealltwriaeth flaengar o ddamcaniaeth ac ymarfer seicolegol drwy ein dull "dosbarth meistr" unigryw. Byddwch yn ymgysylltu'n uniongyrchol ag ymchwilwyr ac ymarferwyr arbenigol, gan drafod y datblygiadau diweddaraf mewn seicoleg. Byddwch hefyd yn cwblhau traethawd hir, wedi'i arwain gan academyddion profiadol, gan gynnal ymchwil wreiddiol mewn maes cyfoes.

Pam Astudio Seicoleg (Trosi) yn Abertawe?

Mae'r rhaglen yn cyfuno arbenigedd gan academyddion ac ymarferwyr sy'n cymryd rhan yn weithredol mewn ymchwil ac ymarfer proffesiynol ar draws amrywiaeth o feysydd seicoleg, gan sicrhau bod cynnwys y rhaglen yn berthnasol, yn gyfredol ac yn seiliedig ar dystiolaeth.

Mae ein profiad o droi ein gwyddoniaeth o ymchwil yn effaith ar gyfer cymdeithas yn y byd go iawn o fudd uniongyrchol i'n myfyrwyr gan ei fod yn llywio cynnwys ein cwrs. Yn yr asesiad ymchwil diweddaraf, ystyriwyd bod 100% o'n hymchwil yn rhagorol yn rhyngwladol am ei heffaith (REF2021).

Mae gennym gyfleusterau o'r radd flaenaf, gan gynnwys: ystafell electroenceffalograffeg (EEG) dwysedd uchel; labordy cwsg ag ystod lawn o gyfarpar; ystafell arsylwi cymdeithasol; labordai olrhain symudiadau'r llygaid, seicoffisiolegol, ysgogi trawsgreuanol cerrynt union, a chyflyru; labordy gydol oes; ac ystafell babanod, ynghyd â mwy nag 20 ystafell ymchwil amlbwrpas.

Eich profiad Seicoleg (Trosi)

Mae'r rhaglen, a gaiff ei haddysgu yn yr Ysgol Seicoleg, yn mabwysiadu ymagwedd at ddysgu ac addysgu sy'n canolbwyntio ar fyfyrwyr ac yn seiliedig ar dystiolaeth, gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau megis darlithoedd, seminarau, gweithdai, tiwtorialau, adnoddau ar-lein ac astudio annibynnol. Mae'r rhaglen hefyd yn meithrin amgylchedd dysgu cefnogol a chynhwysol sy'n annog myfyrwyr i gydweithredu, cyfranogi ac ymgysylltu â safbwyntiau a phrofiadau amrywiol.

Mae'r cwrs yn pwysleisio integreiddio damcaniaeth ac ymarfer, gan eich paratoi i gymhwyso’ch gwybodaeth i broblemau a chyd-destunau go iawn. Byddwch chi'n dysgu cysylltu egwyddorion seicolegol ag ymchwil gyfoes mewn meysydd cysylltiedig ac yn archwilio llwybrau seicoleg broffesiynol amrywiol.

Cyfleoedd Cyflogaeth Seicoleg (Trosiad)

Byddwch chi'n datblygu sgiliau hanfodol megis meddwl yn feirniadol, datrys problemau, cyfathrebu, gwaith tîm a hunanreolaeth. Byddwch chi hefyd yn meithrin ymwybyddiaeth foesegol, cyfrifoldeb cymdeithasol a sensitifrwydd diwylliannol. Bydd yr elfennau hyn yn eich paratoi am astudio pellach, ymchwil neu ymarfer seicoleg proffesiynol, a byddant yn agor drysau i amrywiaeth eang o yrfaoedd mewn sectorau gwahanol.

Modiwlau

Byddwch chi'n astudio cyfuniad o fodiwlau gorfodol a dewisol sy'n ymdrin ag agweddau allweddol ar seicoleg.