Trosolwg o'r Cwrs
Bydd yr LLM mewn Cyfraith Fasnachol a Chyfraith Forol Ryngwladol yn sicrhau eich bod yn meddu ar y wybodaeth a'r sgiliau mewn dau faes pwysig o'r gyfraith er mwyn eich rhoi ar ben y ffordd mewn perthynas ag amrywiaeth o yrfaoedd cyffrous.
Gan ddysgu gan arbenigwyr sy'n meddu ar brofiad academaidd ac ymarferol ar lefel uchel, byddwch yn meithrin dealltwriaeth fanwl o'r heriau cyfreithiol ac ymarferol sy'n gysylltiedig â thrafodion masnachol rhyngwladol, a'r materion sy'n gysylltiedig â rheoleiddio masnach, mordwyo, a gweithgareddau eraill ar y moroedd.
Bydd y radd LLM hon yn eich helpu i ddod yn arbenigwr mewn cyfraith fasnachol a chyfraith forol, ac yn meithrin gwybodaeth a sgiliau a gaiff eu gwerthfawrogi'n fawr gan gyflogwyr.