Trosolwg o'r Cwrs
Bydd y rhaglen LLM mewn Cyfraith Fasnachol Ryngwladol yn sicrhau eich bod yn meddu ar y wybodaeth a'r sgiliau i'ch rhoi ar ben y ffordd mewn perthynas ag amrywiaeth o yrfaoedd cyffrous yn y maes pwysig ac amrywiol hwn o'r gyfraith.
Gan ddysgu gan arbenigwyr sy'n meddu ar brofiad academaidd ac ymarferol ar lefel uchel, byddwch yn meithrin dealltwriaeth fanwl o'r heriau cyfreithiol ac ymarferol sy'n gysylltiedig â thrafodion masnachol rhyngwladol.
Bydd y radd LLM hon yn eich helpu i ddod yn arbenigwr mewn cyfraith fasnachol, ac yn meithrin gwybodaeth a sgiliau a gaiff eu gwerthfawrogi'n fawr gan gyflogwyr.