Trosolwg o'r Cwrs
Mae'r môr yn hanfodol i bobl fyw – at ddibenion masnach, llwybrau mordwyo, ac fel ffynhonnell bwysig o adnoddau naturiol. Mae galw cyson am arbenigedd cyfreithiol mewn perthynas â'r materion sy'n gysylltiedig â'r gyfraith yn y meysydd hyn.
Bydd ein rhaglen LLM mewn Cyfraith Forol Ryngwladol yn meithrin dealltwriaeth fanwl o'r gyfraith sy'n gysylltiedig â chontractau ar gyfer cludo nwyddau, yswiriant morol, masnach ryngwladol a chyfraith y môr.
Gan ddysgu gan arbenigwyr sy'n meddu ar brofiad academaidd ac ymarferol ar lefel uchel, byddwch yn meithrin gwybodaeth a sgiliau arbenigol a gaiff eu gwerthfawrogi'n fawr gan gyflogwyr, ac yn cael cyfle i fanteisio ar amrywiaeth o gyfleoedd gyrfa cyffrous.