Cyfraith Olew, Nwy ac Ynni Adnewyddadwy, LLM

Archwiliwch yr heriau cyfreithiol sy'n gysylltiedig â ffynonellau ynni newydd

a student in the Richard Price Building

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r cyflenwad ynni yn hanfodol er mwyn sicrhau ffyniant economaidd byd-eang. Bydd ein rhaglen LLM mewn Cyfraith Olew, Nwy ac Ynni Adnewyddadwy yn sicrhau eich bod yn meddu ar ddealltwriaeth fanwl o'r agweddau cyfreithiol a masnachol cymhleth cysylltiedig, er mwyn i chi allu manteisio ar amrywiaeth o gyfleoedd gyrfa cyffrous.

Gan ddysgu gan arbenigwyr sy'n meddu ar brofiad academaidd ac ymarferol ar lefel uchel, byddwch yn meithrin dealltwriaeth fanwl o'r gyfraith mewn perthynas â'r diwydiant olew a nwy a ffynonellau ynni newydd, yn arbennig ynni adnewyddadwy. 

Pam LLM mewn Cyfraith Olew, Nwy ac Ynni Adnewyddadwy ym Mhrifysgol Abertawe?

Fel myfyriwr ôl-raddedig yn Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton, byddwch yn rhan o ysgol y gyfraith a gaiff ei chydnabod ledled y byd, sy'n cynnig amgylchedd academaidd ffyniannus sy'n ymrwymedig i ragoriaeth mewn addysgu a gwaith ymchwil, ac yn cynnig profiad eithriadol i fyfyrwyr.

  • Mae'r modiwl Cymrodeddu Masnachol Rhyngwladol (LACM17) sy'n cael ei gynnig fel rhan o'r radd hon wedi cael ei gydnabod gan Sefydliad Siartredig y Cymrodeddwyr (CIArb). Mae hyn yn golygu y bydd myfyrwyr LLM sy'n cwblhau'r modiwl Cymrodeddu Masnachol Rhyngwladol yn llwyddiannus yn Abertawe'n gymwys i gael eu derbyn i lefel Aelod Cysylltiol y Sefydliad.

  • Mae 83.3% o’n hymchwil yn cael effaith sylweddol yn nhermau ei chyrhaeddiad a’i harwyddocâd (REF 2021) 

  • Yn yr 300 Uchaf (Shanghai Rankings (Safle Byd-eang Pynciau Academaidd 2024)

Eich profiad Cyfraith Olew, Nwy ac Ynni Adnewyddadwy

Fel rhan o'r radd LLM hon, byddwch yn meithrin y wybodaeth a'r profiad i ddatblygu i fod yn gyfreithiwr neu'n ymarferydd gwasanaethau cyfreithiol yn y 21ain ganrif sy'n meddu ar ddealltwriaeth arbenigol a manwl o gyfraith olew, nwy ac ynni adnewyddadwy.

Mae ein graddau ôl-raddedig yn y gyfraith yn cynnig y cyfle i chi ddysgu gan academyddion sy'n arbenigwyr yn y diwydiant ac sy'n meddu ar brofiad academaidd ac ymarferol cyfoethog.

Byddwch hefyd yn dysgu drwy'r canlynol:

  • Darlithoedd gwadd er mwyn rhoi cipolwg i chi ar ymarfer yn y maes
  • Cystadlaethau dadlau
  • Ysgolion haf dramor

Cyfleoedd cyflogaeth Cyfraith Olew, Nwy ac Ynni Adnewyddadwy

Mae graddedigion yr LLM mewn Cyfraith Olew, Nwy ac Ynni Adnewyddadwy mewn sefyllfa dda i fanteisio ar gyfleoedd gyrfa ysgogol a gwerthfawr.

Mae gwella eich cyflogadwyedd yn flaenoriaeth allweddol i ni, ac rydym yn trefnu amrywiaeth o ddigwyddiadau i helpu, gan gynnwys y ffair gyrfaoedd LLM flynyddol, sy'n cynnig y cyfle i chi gyfarfod â chwmnïau cyfreithiol lleol a rhyngwladol, yn ogystal â digwyddiadau rhwydweithio ac ymweliadau â phractisau blaenllaw yn Ninas Llundain.

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Cynnig Nodweddiadol

2:2