Eiddo Deallusol ac Arloesi, LLM

Archwiliwch sut y gellir rheoli asedau mewn ffordd fasnachol effeithiol

a group of students on the Singleton Campus

Trosolwg o'r Cwrs

Bydd y rhaglen LLM mewn Eiddo Deallusol ac Arloesi yn sicrhau eich bod yn meddu ar y wybodaeth a'r sgiliau i'ch rhoi ar ben y ffordd mewn perthynas ag amrywiaeth o yrfaoedd cyffrous yn y maes cynyddol amlwg hwn.

Byddwch yn meithrin dealltwriaeth fanwl o'r asedau anniriaethol neu 'gudd', sef 70% o werth cwmni fel arfer, ac yn dysgu sut y gall busnesau eu rheoli yn y ffordd fwyaf cost-effeithiol a masnachol.

Pam Eiddo Deallusol ac Arloesi ym Mhrifysgol Abertawe?

Fel myfyriwr ôl-raddedig yn Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton, byddwch yn rhan o ysgol y gyfraith a gaiff ei chydnabod ledled y byd, sy'n cynnig amgylchedd academaidd ffyniannus sy'n ymrwymedig i ragoriaeth mewn addysgu a gwaith ymchwil, ac yn cynnig profiad eithriadol i fyfyrwyr.

  • Mae'r modiwl Cymrodeddu Masnachol Rhyngwladol (LACM17) sy'n cael ei gynnig fel rhan o'r radd hon wedi cael ei gydnabod gan Sefydliad Siartredig y Cymrodeddwyr (CIArb). Mae hyn yn golygu y bydd myfyrwyr LLM sy'n cwblhau'r modiwl Cymrodeddu Masnachol Rhyngwladol yn llwyddiannus yn Abertawe'n gymwys i gael eu derbyn i lefel Aelod Cysylltiol y Sefydliad

  • Mae 83.3% o’n hymchwil yn cael effaith sylweddol yn nhermau ei chyrhaeddiad a’i harwyddocâd (REF 2021)

  • Yn yr 300 Uchaf (Shanghai Rankings (Safle Byd-eang Pynciau Academaidd 2024)

Eich profiad Eiddo Deallusol ac Arloesi

Fel rhan o'r radd LLM hon, byddwch yn meithrin y wybodaeth a'r profiad i ddatblygu i fod yn gyfreithiwr neu'n ymarferydd gwasanaethau cyfreithiol yn y 21ain ganrif sy'n meddu ar ddealltwriaeth arbenigol a manwl o eiddo deallusol ac arloesi.

Mae ein graddau ôl-raddedig yn y gyfraith yn cynnig y cyfle i chi ddysgu gan academyddion sy'n arbenigwyr yn y diwydiant ac sy'n meddu ar brofiad academaidd ac ymarferol cyfoethog.

Byddwch hefyd yn dysgu drwy'r canlynol:

  • Darlithoedd gwadd er mwyn rhoi cipolwg i chi ar ymarfer yn y maes
  • Cystadlaethau dadlau
  • Ysgolion haf dramor

Cyfleoedd Cyflogaeth Eiddo Deallusol ac Arloesi

Mae graddedigion yr LLM mewn Eiddo Deallusol ac Arloesi mewn sefyllfa dda i fanteisio ar gyfleoedd gyrfa ysgogol a gwerthfawr.

Mae gwella eich cyflogadwyedd yn flaenoriaeth allweddol i ni, ac rydym yn trefnu amrywiaeth o ddigwyddiadau i helpu, gan gynnwys y ffair gyrfaoedd LLM flynyddol, sy'n cynnig y cyfle i chi gyfarfod â chwmnïau cyfreithiol lleol a rhyngwladol, yn ogystal â digwyddiadau rhwydweithio ac ymweliadau â phractisau blaenllaw yn Ninas Llundain.

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Cynnig Nodweddiadol

2:2