I raddedigion heb radd Gyfraith sy'n paratoi at Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr
Trosolwg o'r Cwrs
Mae'r LLM yn y Gyfraith ac Ymarfer Cyfreithiol yn gwrs trosi sy'n paratoi graddedigion heb radd yn y Gyfraith ar gyfer Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr 1 (SQE1), sef y cam hanfodol cyntaf ar y llwybr i gymhwyso.
Mae'r rhaglen yn cyfuno gwybodaeth graidd a'r gallu i roi'r Gyfraith ar waith yn ymarferol er mwyn paratoi graddedigion heb radd yn y Gyfraith i gymhwyso i fod yn gyfreithwyr yng Nghymru a Lloegr.
Mae'n cynnig y cyfle i chi ennill gradd meistr, meithrin gwybodaeth a sgiliau cyfreithiol, a pharatoi ar gyfer bywyd o ymarfer cyfreithiol.
Dyma raglen ddwys a ddarperir dros 18 mis, gan gwmpasu sylfeini'r Gyfraith, meysydd ymarfer craidd a'r sgiliau sy'n ofynnol ar gyfer asesiad SQE1 fel rhan o gymhwyster a gaiff ei gydnabod a'i werthfawrogi gan ddarpar gyflogwyr.
Cewch gyfle hefyd i ymgymryd â dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd sy'n ddilys i'r proffesiwn cyfreithiol.
Os ydych wedi graddio yn y Gyfraith ac am baratoi ar gyfer Arholiadau Cymhwyso Cyfreithwyr 1 a 2 (SQE 1 a 2), edrychwch ar ein tudalen cwrs ar gyfer LLM mewn Ymarfer Cyfreithiol Proffesiynol.
Pam y Gyfraith ac Ymarfer Cyfreithiol ym Mhrifysgol Abertawe?
Fel myfyriwr ôl-raddedig yn Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton, byddwch yn rhan o ysgol y gyfraith a gaiff ei chydnabod ledled y byd, sy'n cynnig amgylchedd academaidd ffyniannus a phrofiad eithriadol i fyfyrwyr.
Cydnabyddir bod Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton yn ffynhonnell arbenigedd a'i bod yn dylanwadu ar amrywiaeth eang o feysydd ymarfer. Mae’r Ysgol yn hollol ymrwymedig i wella dysgu ac addysgu'n barhaus, ac i roi myfyrwyr wrth wraidd ei gweithgareddau. Fe'ch goruchwylir gan academyddion ac ymarferwyr cymwysedig sydd â phrofiad helaeth o'r byd go iawn, sydd mewn sefyllfa ddelfrydol i roi arweiniad a chymorth parhaus.
Yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE)
Roedd cyflwyniad yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE) o fis Medi 2021 yn newid sylweddol yn y llwybr i gymhwyso fel cyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr.
Nod yr SQE, sy'n cynnwys dau gam o arholiadau a asesir yn ganolog (SQE1 ac SQE2), a chyfnod o brofiad gwaith cymhwyso, yw asesu'r holl ymgeiswyr mewn modd teg a chyson.
Yn y pen draw, bydd yr Arholiadau Cymhwyso Cyfreithwyr yn disodli'r llwybrau presennol i ymarfer yn y maes. Os ydych eisoes wedi dechrau Diploma yn y Gyfraith i Raddedigion neu LLB neu wedi derbyn lle ar un o'r rhain erbyn 1/9/21, bydd trefniadau pontio'n eich galluogi i gymhwyso drwy lwybr y Diploma yn y Gyfraith i Raddedigion/Cwrs Ymarfer Cyfreithiol tan 2032*.
*Rhaid bod ymgeiswyr wedi derbyn cynnig am le ar GDL erbyn 31/8/21, neu am LLB erbyn 30/9/21 i gadw'r hawl i gymhwyso drwy'r Cwrs Ymarfer Cyfreithiol.
Nid yw asesiadau SQE1 yn rhan o'r rhaglen ei hun ac nid yw'r gost o ymgymryd ag asesiadau SQE1 wedi'i chynnwys yn ffi'r rhaglen. Nid yw'r cwrs yn ceisio paratoi myfyrwyr ar gyfer asesiadau SQE2.
Eich Profiad y Gyfraith ac Ymarfer Cyfreithiol
Rydym yn cynnig cymuned ac amgylchedd dysgu cynhwysol sy'n canolbwyntio ar fyfyrwyr, ac sy'n rhoi pwyslais ar eich llwyddiant.
Byddwch yn meithrin sgiliau llafar ac ysgrifennu ardderchog, gan ddysgu sut i gyflwyno eich syniadau drwy amrywiaeth o fformatau. Rydym yn galluogi ein myfyrwyr i ddatblygu i fod yn feddylwyr beirniadol ystwyth, dadansoddol, sy'n fedrus ym maes ymchwil gyfreithiol ac sy'n meddu ar sgiliau datrys problemau sy'n hanfodol i fywyd mewn ymarfer cyfreithiol.
Bydd y rhaglen yn cynnwys ffyrdd amrywiol o asesu, ac fe'ch anogir i feithrin sgiliau gweithio fel aelod o dîm a chyfathrebu drwy seminarau a gweithdai, yn ogystal â sgiliau rheoli prosiectau ac ymchwil annibynnol fel rhan o'r modiwl dysgu annibynnol. Bydd y sgiliau hyn yn sicrhau y gallwch gystadlu'n llwyddiannus yn y farchnad swyddi.
Byddwch hefyd yn cael mynediad at ddarlithoedd gwadd gan ymarferwyr ac academyddion uchel eu bri, a byddwch yn elwa o'n rhwydweithiau sefydledig i'ch helpu i ddysgu.
Cyfleoedd cyflogaeth yn y Gyfraith ac Ymarfer Cyfreithiol
Mae’r rhaglen hon yn ymateb i anghenion cyflogwyr ac yn canolbwyntio ar eich paratoi ar gyfer asesiadau SQE1, yn ogystal â sicrhau bod gennych wybodaeth sylfaenol gadarn am y gyfraith a meysydd ymarfer craidd, sy'n hanfodol at ddibenion cymhwyso.
Mae angen i fyfyrwyr sy'n bwriadu cymhwyso i fod yn gyfreithwyr sefyll a phasio asesiadau SQE1 ac SQE2 a chwblhau dwy flynedd o brofiad gwaith cymhwyso er mwyn cyflawni'r nod hwnnw. Fodd bynnag, bydd myfyrwyr nad ydynt yn dymuno cymhwyso yn meithrin sgiliau trosglwyddadwy ar y rhaglen hon a fydd yn eu cynorthwyo mewn gyrfaoedd eraill. Mae enghreifftiau'n cynnwys:
Cyfreithwyr academaidd
Cyfrifyddiaeth
Bancio
Masnach a busnes
Llywodraethu corfforaethol
Gwasanaeth Erlyn y Goron
Y diwydiant cyllid a bancio
Gwasanaeth Cyfreithiol y Llywodraeth
Cyhoeddi cyfreithiol
Adrannau Ombwdsmon
Rheolyddion
Treth
Modiwlau
Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.
Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.
Gofynion Mynediad
Nodyn ar gyfer ymgeiswyr rhyngwladol ac Ewropeaidd:
gellir dod o hyd i fanylion ynghylch sut mae eich cymhwyster yn cymharu â’r gofynion mynediad academaidd sydd wedi'u cyhoeddi ar ein tudalen Gofynion Mynediad Gwledydd Penodol.
Ein gofyniad mynediad safonol yw gradd israddedig 2:2 mewn unrhyw ddisgyblaeth, ond asesir pob ymgeisydd ar sail unigol.
Rydym yn hapus i ystyried ymgeiswyr nad ydynt wedi cael addysg ers peth amser, sydd wedi cael profiad proffesiynol cyfatebol, neu debyg.
Gofynion iaith Saesneg – sgôr IELTS o 6.5, gydag o leiaf 6.0 ym mhob elfen neu brawf Saesneg cymeradwy cyfatebol. Gweler rhagor o wybodaeth am ein gofynion iaith Saesneg.
Rydym yn cynnig amrywiaeth o raglenni hyfforddiant cyn-sesiynol i fyfyrwyr sy’n methu’r gofyniad iaith Saesneg yn unig, a gallwch ymgymryd â'r rhain cyn dechrau eich rhaglen radd.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr o bob cwr o'r byd ac yn gofyn am dystiolaeth o astudiaethau blaenorol sy'n cyfateb i'r gofynion mynediad.
Darperir y cwrs drwy gyfuniad o ddarlithoedd a sesiynau grwpiau mawr lle y'ch cyflwynir i bynciau cyfreithiol a meysydd ymarfer newydd, a seminarau a gweithdai lle byddwch yn dysgu sut i roi'r gyfraith ar waith yng nghyd-destun sefyllfaoedd ffeithiol dilys ac ystyried y gyfraith mewn modd beirniadol drwy ymchwilio i ddeunydd o ffynonellau uniongyrchol ac anuniongyrchol.
Lluniwyd yr asesiadau i'ch helpu i ddatblygu eich sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar, eich gallu i ymchwilio i'r gyfraith ac i ystyried y gyfraith a'i datblygiad mewn modd beirniadol, a'r ffordd rydych yn rhoi'r gyfraith ar waith yn ymarferol mewn cyd-destun perthnasol.
Byddwch yn ymgymryd ag amrywiaeth o asesiadau ym mhob rhan o'r rhaglen sydd wedi cael eu llunio i brofi gwybodaeth, ymarfer a sgiliau mewn ffyrdd dilys. Bydd gennych rywfaint o ddewis unigol mewn perthynas â phynciau. Mae enghreifftiau'n cynnwys:
Darperir rhai elfennau o'r cwrs ôl-raddedig hwn trwy gyfrwng y Gymraeg ond
nid oes digon o ddarpariaeth eto i gyrraedd 40 credyd ym mhob blwyddyn. Gall
Cyfarwyddwr Rhaglen amlinellu union natur y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg.
Mae Academi Hywel Teifi yma i'th
gefnogi trwy gydol dy amser ym Mhrifysgol Abertawe. Rydym yn cynnig:
Mynediad at ap Arwain er mwyn derbyn y diweddaraf am ein cyrsiau a'n modiwlau cyfrwng Cymraeg. Gelli lawrlwytho'r ap am ddim drwy'r App Store a Google Play.
Cyfweliad trwy gyfrwng y Gymraeg wrth wneud cais am le.
Gohebiaeth bersonol yn Gymraeg, yn Saesneg neu'n ddwyieithog.
Cyfle i lunio a chyflwyno gwaith cwrs neu sefyll arholiadau trwy gyfrwng y Gymraeg (hyd yn oed os wyt ti wedi dewis astudio yn Saesneg), a bydd dy waith yn cael ei asesu yn Gymraeg.
Tiwtor Personol Cymraeg ei iaith.
Cefnogaeth un i un i wella dy sgiliau Cymraeg academaidd.
Cyfle i ennill cymhwyster ychwanegol sy'n dystiolaeth o dy allu Cymraeg i gyflogwyr y dyfodol.
Caiff ein graddau eu haddysgu gan arbenigwyr y diwydiant, sy'n meddu ar brofiad o'r byd go iawn, y mae nifer ohonynt yn gyfreithwyr neu'n fargyfreithwyr ar hyn o bryd.
Mae ffioedd dysgu ar gyfer blynyddoedd o astudiaeth ar ôl eich blwyddyn gyntaf yn amodol ar gynnydd o 3%.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ffioedd a sut i dalu ar ein tudalen ffioedd dysgu.
Efallai y byddwch yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.
I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd cyllido eraill sydd ar gael, ewch i dudalen ysgoloriaethau a bwrsariaethau'r Brifysgol.
Myfyrwyr cyfredol: Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ffioedd a sut i dalu ar ein tudalen ffioedd dysgu.
Mae’n bosib eich bod yn gymwys i gael cymorth ariannol tuag at eich astudiaethau.
Os ydych yn fyfyriwr y DU neu'r UE sy’n dechrau ar radd Meistr ym Mhrifysgol Abertawe, efallai y byddwch yn gymwys i gyflwyno cais am arian gan y Llywodraeth i helpu tuag at gostau eich astudiaethau.
I gael mwy o wybodaeth, ewch i'n tudalen benthyciadau Ôl-raddedig.
I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd eraill am gymorth ariannol sydd ar gael, ewch i dudalen
ysgoloriaethau a bwrsariaethau'r Brifysgol.
Mae ysgoloriaethau a bwrsariaethau hael ar gael gan Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno astudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog.
I ddysgu mwy am y cyfleoedd sydd ar gael i chi, ewch i dudalen Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Academi Hywel Teifi
Bydd mynediad i'ch dyfais ddigidol eich hun/y pecyn TG priodol yn hanfodol yn ystod eich amser yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe. Bydd mynediad at wifi yn eich llety hefyd yn hanfodol i'ch galluogi i ymgysylltu'n llawn â'ch rhaglen. Gweler ein tudalennau gwe pwrpasol i gael arweiniad pellach ar ddyfeisiau addas i'w prynu, ac i gael canllaw llawn ar sefydlu'ch dyfais.
Efallai y byddwch chi'n wynebu costau ychwanegol tra byddwch chi yn y brifysgol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):
Teithio i'r campws ac oddi yno
Costau argraffu, llungopïo, rhwymo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. ffyn USB)
Yn ogystal â chymorth pwnc penodol gan staff addysgu'r coleg a'ch tiwtor
personol, mae'r
Ganolfan Llwyddiant Academaidd yn darparu cyrsiau, gweithdai a chymorth un-i-un mewn
meysydd fel:
Ysgrifennu academaidd
Mathemateg ac ystadegau
Meddwl critigol
Rheoli amser
Sgiliau digidol
Sgiliau cyflwyno
Cymryd nodiadau
Technegau adolygu, dysgu ar gof ac arholiadau
Sgiliau Saesneg (os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf)
Yn ogystal, os oes gennych Anhawster Dysgu Penodol (ADP/SpLD), anabledd,
cyflwr iechyd meddwl neu gyflwr meddygol, mae gan y Ganolfan Llwyddiant
Academaidd Diwtoriaid Arbenigol i gefnogi'ch dysgu. Bydd y tiwtoriaid yn
gweithio ochr yn ochr â'r Swyddfa Anabledd
a'r Gwasanaeth Lles i gefnogi eich holl anghenion a
gofynion tra byddwch yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe.
Argymhellwn eich bod chi'n cyflwyno eich cais am le ar ein cyrsiau mor fuan â phosibl cyn ein dyddiadau cau ar gyfer
cyflwyno cais. Bydd cyrsiau'n cau yn gynharach na'r dyddiadau cau a restrir os caiff yr holl leoedd eu llenwi. Mae
rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen we Dyddiadau
cau ar gyfer cyflwyno cais.
Bydd y Brifysgol yn gwneud pob ymdrech i ddarparu pob cwrs yn unol â'r
disgrifiadau a geir yn nhudalennau gwe'r cwrs perthnasol ar adeg eich
cais. Fodd bynnag, gall fod sefyllfaoedd pan fydd yn ddymunol neu'n
angenrheidiol i'r Brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs naill
ai cyn neu ar ôl cofrestru.
Mae'r wybodaeth isod ar gyfer myfyrwyr sy'n dechrau eu cyrsiau yn 2016 neu
wedi hynny.
Fel arfer, ni fydd y Brifysgol yn gwneud newidiadau sylweddol iawn i gyrsiau
(er enghraifft, newid teitl y cwrs, ailstrwythuro sylweddol, newid sylweddol
yng nghynnwys y cwrs, neu gyflwyno rhwystr i ddilyniant) a fyddai'n
effeithio ar fyfyrwyr sydd eisoes wedi dechrau eu cwrs. Mewn amgylchiadau
eithriadol, gall fod angen i'r Brifysgol wneud y fath newid ar ôl i ddeiliad
cynnig dderbyn lle. Ni fydd hyn yn digwydd llai na 5 mis cyn cofrestru.
Caiff deiliad y cynnig ei hysbysu am y newid a chyfle i dynnu ei gais yn ôl
a gwneud cais i sefydliad arall.
Gellid gwneud newidiadau eraill yng nghynnwys y cwrs, y lleoliad astudio, y
dulliau cyflwyno a'r ddarpariaeth addysgu oherwydd datblygiadau yn y pwnc
dan sylw, gwelliannau i arfer addysgu neu asesu, gofynion prosesau achredu
allanol, newidiadau staffio, cyfyngiadau o ran adnoddau neu newidiadau o ran
argaeledd cyfleusterau. Bydd newidiadau o'r fath yn ystyried disgwyliadau
rhesymol darpar fyfyrwyr a myfyrwyr presennol.