Hawliau Dynol, LLM

Archwilio hawliau dynol drwy ddeddfwriaeth, polisi ac arfer.

two students talking outside the Richard Price Building

Trosolwg o'r Cwrs

Bydd yr LLM mewn Hawliau Dynol yn sicrhau eich bod yn meddu ar y wybodaeth a'r sgiliau i ymdrin â rhai o'r heriau mwyaf sy'n wynebu cymdeithas heddiw, gan gynnig cyfleoedd gyrfa cyffrous ym maes hawliau dynol.

Byddwch yn meithrin dealltwriaeth fanwl o'r heriau ym maes hawliau dynol ledled y byd ac ymatebion posibl drwy ddeddfwriaeth, polisi ac arfer.

Caiff y Rhaglen LLM hon ei haddysgu gan arbenigwyr hawliau dynol ac mae'n seiliedig ar waith ymchwil eithriadol.

Pam Hawliau Dynol ym Mhrifysgol Abertawe?

Fel myfyriwr ôl-raddedig yn Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton, byddwch yn rhan o ysgol y gyfraith a gaiff ei chydnabod ledled y byd, sy'n cynnig amgylchedd academaidd ffyniannus sy'n ymrwymedig i ragoriaeth mewn addysgu a gwaith ymchwil, ac yn cynnig profiad eithriadol i fyfyrwyr.

  • Mae 83.3% o’n hymchwil yn cael effaith sylweddol yn nhermau ei chyrhaeddiad a’i harwyddocâd (REF 2021)

Eich profiad Hawliau Dynol

Byddwch yn meithrin y wybodaeth a'r profiad i ddatblygu i fod yn gyfreithiwr neu'n ymarferydd gwasanaethau cyfreithiol yn y 21ain ganrif sy'n meddu ar ddealltwriaeth arbenigol a manwl o faterion hawliau dynol.

Mae'r cwrs yn cynnig y canlynol:

  • Rhaglen wedi'i chynllunio'n seiliedig ar waith ymchwil o safon uchel
  • Academyddion â chydberthnasau cryf â phartneriaid allanol ym maes hawliau dynol
  • Dull gweithredu rhyngddisgyblaethol ac amlddisgyblaethol
  • Ffocws ar yr heriau amrywiol sy'n gysylltiedig â hawliau dynol
  • Cyfleoedd i ymdrin ag amrywiaeth o bynciau hawliau dynol ar draws amrywiol feysydd thematig

Byddwch hefyd yn dysgu drwy'r canlynol:

  • Darlithoedd gwadd gan ymarferwyr arbenigol
  • Dysgu yn y gweithle drwy waith gwirfoddol a/neu leoliadau
  • Cymryd rhan mewn prosiectau ymchwil ar y cyd â phartneriaid ymchwil
  • Ymgysylltu â phrosiectau'r Ysgol, megis y Prosiect Seiberderfysgaeth, yr Arsyllfa ar Hawliau Dynol Plant a'r Consortiwm Gwaith Rhyw.

Cyfleoedd cyflogaeth Hawliau Dynol

Mae graddedigion yr LLM mewn Hawliau Dynol mewn sefyllfa dda i fanteisio ar gyfleoedd gyrfa ysgogol a gwerthfawr. Gallech weithio mewn swydd draddodiadol neu arbenigol yn un o'r meysydd canlynol yn y dyfodol:

  • Cyfraith hawliau dynol arbenigol
  • Sefydliadau hawliau dynol
  • Cyrff hawliau dynol rhyngwladol
  • Y sector cyhoeddus – llywodraeth, gwasanaeth sifil, cyngor gwleidyddol a pholisi
  • Y sector preifat – busnes byd-eang, cenedlaethol neu leol
  • Sector anllywodraethol, megis UNICEF, Amnest ac Achub y Plant
  • Ymchwil ac academia

Modiwlau

Byddwch yn astudio modiwlau a addysgir (gorfodol a dewisol) ac yn cwblhau traethawd hir.

Bydd modiwlau gorfodol yn archwilio'r fframwaith hawliau dynol rhyngwladol, yn cyflwyno dulliau ymchwil ar hawliau dynol ac yn trafod atebolrwydd dros hawliau dynol, gan gynnwys asesu effaith.