Ymarfer y Gyfraith Proffesiynol, LLM

At graddedigion Gyfraith sy'n paratoi ar gyfer Arholiadau Cymhwyso Cyfreithwyr

Students working together in the Richard Price Atrium

Trosolwg o'r Cwrs

Sylwer na fydd y fersiwn ran-amser o'r cwrs hwn ar gael yn 2024/25. Gellir cyflwyno ceisiadau am 2025/26 ym mis Hydref 2024.

Mae'r LLM Mewn Ymarfer Cyfreithiol Proffesiynol yn gwrs proffesiynol ar gyfer graddedigion y Gyfraith a luniwyd yn unol â gofynion  Arholiadau Cymhwyso Cyfreithwyr 1 a 2 (SQE1 a 2). 

Mae'r rhaglen yn cyfuno gwybodaeth graidd a'r gallu i roi'r Gyfraith ar waith yn ymarferol er mwyn paratoi graddedigion y Gyfraith i gymhwyso i fod yn gyfreithwyr yng Nghymru a Lloegr trwy’r SQE.

Mae'n cynnig y cyfle i chi ennill gradd meistr, meithrin gwybodaeth a sgiliau cyfreithiol, a pharatoi ar gyfer bywyd o ymarfer cyfreithiol.

Darperir y rhaglen dros un flwyddyn academaidd ac fe'i haddysgir mewn dau gam – mae cam 1 yn canolbwyntio ar y meysydd ymarfer craidd, ac mae cam 2 yn canolbwyntio ar ddatblygu eich sgiliau cyfreithiol proffesiynol yng nghyd-destun y meysydd ymarfer craidd hyn.

Uchafbwynt y rhaglen yw cyfle i chi ymgymryd â dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd sy'n ddilys i'r proffesiwn cyfreithiol, gan ganolbwyntio ar waith ymchwilio a drafftio cyfreithiol ymarferol.

Os ydych wedi graddio mewn pwnc ac eithrio’r Gyfraith ac yn edrych am gwrs trosi er mwyn paratoi ar gyfer  Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr 1 (SQE1), edrychwch ar ein tudalen cwrs LLM yn y Gyfraith ac Ymarfer Cyfreithiol.

Pam Ymarfer Cyfreithiol Proffesiynol ym Mhrifysgol Abertawe?

Fel myfyriwr ôl-raddedig yn Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton, byddwch yn rhan o ysgol y gyfraith a gaiff ei chydnabod ledled y byd, sy'n cynnig amgylchedd academaidd ffyniannus a phrofiad eithriadol i fyfyrwyr.

Cydnabyddir bod Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton yn ffynhonnell arbenigedd a'i bod yn dylanwadu ar amrywiaeth eang o feysydd ymarfer. Mae’r Ysgol yn hollol ymrwymedig i wella dysgu ac addysgu'n barhaus, ac i roi myfyrwyr wrth wraidd ei gweithgareddau. Fe'ch goruchwylir gan academyddion ac ymarferwyr cymwysedig sydd â phrofiad helaeth o'r byd go iawn, sydd mewn sefyllfa ddelfrydol i roi arweiniad a chymorth parhaus.

Yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE)

Roedd cyflwyniad yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE) o fis Medi 2021 yn newid sylweddol yn y llwybr i gymhwyso fel cyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr.

Nod yr SQE, sy'n cynnwys dau gam o arholiadau a asesir yn ganolog (SQE1 ac SQE2), a chyfnod o brofiad gwaith cymhwyso, yw asesu'r holl ymgeiswyr mewn modd teg a chyson.

Yn y pen draw, bydd yr Arholiadau Cymhwyso Cyfreithwyr yn disodli'r llwybrau presennol i ymarfer yn y maes. Os ydych eisoes wedi dechrau Diploma yn y Gyfraith i Raddedigion (GDL) neu LLB neu wedi derbyn lle ar un o'r rhain ar 1 Medi 2021, bydd trefniadau pontio'n eich galluogi i gymhwyso drwy lwybr y Cwrs Ymarfer Cyfreithiol tan 2032*.

*Rhaid bod ymgeiswyr wedi derbyn cynnig am le ar GDL erbyn 31/8/21, neu am LLB erbyn 30/9/21 i gadw'r hawl i gymhwyso drwy'r Cwrs Ymarfer Cyfreithiol.

Cewch fanylion llawn y llwybrau i gymhwyso fel cyfreithiwr drwy fynd i wefan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr.

Nid yw asesiadau'r SQE yn rhan o'r rhaglen ei hun ac nid yw'r gost o ymgymryd ag asesiadau'r SQE wedi'i chynnwys yn ffi'r rhaglen.

Eich Profiad Ymarfer Cyfreithiol Proffesiynol

Rydym yn cynnig cymuned ac amgylchedd dysgu cynhwysol sy'n canolbwyntio ar fyfyrwyr, ac sy'n rhoi pwyslais ar eich llwyddiant.

Byddwch yn meithrin sgiliau llafar ac ysgrifennu ardderchog, gan ddysgu sut i gyflwyno eich syniadau drwy amrywiaeth o fformatau. Rydym yn galluogi ein myfyrwyr i ddatblygu i fod yn feddylwyr beirniadol ystwyth, dadansoddol, sy'n fedrus ym maes ymchwil gyfreithiol ac sy'n meddu ar sgiliau datrys problemau sy'n hanfodol i fywyd mewn ymarfer cyfreithiol. 

Bydd y rhaglen yn cynnwys ffyrdd amrywiol o asesu, ac fe'ch anogir i feithrin sgiliau gweithio fel aelod o dîm a chyfathrebu drwy seminarau a gweithdai, yn ogystal â sgiliau rheoli prosiectau ac ymchwil annibynnol fel rhan o'r modiwl dysgu annibynnol. Bydd y sgiliau hyn yn sicrhau y gallwch gystadlu'n llwyddiannus yn y farchnad swyddi.

Byddwch hefyd yn cael mynediad at ddarlithoedd gwadd gan ymarferwyr ac academyddion uchel eu bri, a byddwch yn elwa o'n rhwydweithiau sefydledig i'ch helpu i ddysgu.

Cyfleoedd Cyflogaeth Ymarfer Cyfreithiol Proffesiynol

Mae'r rhaglen hon yn ymateb i anghenion cyflogwyr ac yn canolbwyntio ar eich paratoi ar gyfer asesiadau SQE1 ac SQE2, yn ogystal â sicrhau bod gennych wybodaeth sylfaenol gadarn am y gyfraith a meysydd ymarfer craidd, ochr yn ochr â'r sgiliau cyfreithiol ymarferol sy'n hanfodol at ddibenion cymhwyso.

Mae angen i fyfyrwyr sy'n bwriadu cymhwyso i fod yn gyfreithwyr sefyll a phasio asesiadau SQE1 ac SQE2 a chwblhau dwy flynedd o brofiad gwaith cymhwyso er mwyn cyflawni'r nod hwnnw. Fodd bynnag, bydd myfyrwyr nad ydynt yn dymuno cymhwyso yn meithrin sgiliau trosglwyddadwy ar y rhaglen hon a fydd yn eu cynorthwyo mewn gyrfaoedd eraill. Mae enghreifftiau'n cynnwys:

  • Cyfreithwyr academaidd
  • Cyfrifyddiaeth
  • Bancio
  • Masnach a busnes
  • Llywodraethu corfforaethol
  • Gwasanaeth Erlyn y Goron
  • Y diwydiant cyllid a bancio
  • Gwasanaeth Cyfreithiol y Llywodraeth
  • Cyhoeddi cyfreithiol
  • Adrannau Ombwdsmon
  • Rheolyddion
  • Treth

Modiwlau

Bydd y rhaglen yn darparu 180 o gredydau dros un flwyddyn, wedi'i haddysgu mewn dau gam. Darperir yr wybodaeth graidd sy'n ofynnol ar gyfer SQE1 yn ystod cam 1, a datblygir y sgiliau ymarferol sy'n ofynnol ar gyfer SQE2 yn ystod cam 2 yng nghyd-destun y meysydd ymarfer craidd.

Bydd rhywfaint o ddysgu annibynnol dan gyfarwyddyd (40 o gredydau), y byddwch yn ymgymryd ag ef yn ystod cam 2 ochr yn ochr â'ch sesiynau sgiliau a addysgir. Mae'r prosiect dysgu annibynnol hwn yn ddilys i'r proffesiwn cyfreithiol, gan ganolbwyntio ar ymgymryd ag ymchwil gyfreithiol ymarferol a pharatoi adroddiadau cysylltiedig ar gyfer cynulleidfaoedd targed arbenigol ac anarbenigol.

Bydd holl fodiwlau'r rhaglen yn orfodol. Bydd cyfleoedd i ailsefyll pob modiwl.