Trosolwg o'r Cwrs
Oes gennych ddawn am drin ffigurau ac awydd am yrfa mewn cyfrifeg â chyflog uchel? Mae'n broffesiwn gyda galw, ond mae busnesau'r unfed ganrif ar hugain yn chwilio am fwy na dawn trin ffigurau yn unig, mae angen cyfrifyddion â sgiliau strategol arnynt i gynyddu gwerth a thwf.
Nod ein rhaglen MSc Cyfrifeg Strategol ym Mhrifysgol Abertawe yw gwella'ch cyfleoedd gyrfa a helpu i agor llwybr carlam i yrfa wych unrhyw le yn y byd.
Bydd gennych radd gyntaf berthnasol eisoes ac wedi pasio / neu dderbyn eithriadau gan ACCA (y Gymdeithas Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig) Papurau Sylfaenol. Ar y rhaglen hon, byddwch yn dysgu'r damcaniaethau a'r arferion diweddaraf a sut i'w rhoi ar waith fel cyfrifydd proffesiynol, a byddwn ni yn eich paratoi ar gyfer arholiadau proffesiynol yr ACCA*.
Mae'n rhaid i fyfyrwyr gofrestru gyda'r ACCA er mwyn gallu sefyll arholiadau proffesiynol y corff hwnnw. Codir ffioedd ychwanegol - gweler yr adran 'Costau Ychwanegol' isod am fwy o wybodaeth.
Byddwch yn rhan o gorff proffesiynol rhyngwladol a chanddo enw am bennu safonau proffesiynoliaeth, moeseg, uniondeb ac atebolrwydd. Ar ôl i chi gymhwyso a gweithio am dair blynedd, gallwch ddefnyddio'r llythrennau ACCA ar ôl eich enw.
*Mae Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe'n cadw'r hawl i wneud addasiadau rhesymol i'r rhaglen MSc mewn Cyfrifeg Strategol, yn unol â chanllawiau a safonau diweddaraf yr ACCA. Rydym yn ymrwymedig i ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf sy'n bodloni safonau'r diwydiant i'n myfyrwyr ac i'w paratoi'n ddigonol am bapurau proffesiynol yr ACCA.