Cyllid a Dadansoddeg Data Mawr, MSc

Rhowch hwb i’ch sgiliau dadansoddi

myfyrwyr yn gweithio gyda ' i gilydd

Trosolwg o'r Cwrs

Oes gennych chi awydd i ddylanwadu ar ddyfodol cyllid a data? Mae ein gradd MSc mewn Cyllid a Dadansoddeg Data Mawr yn rhoi'r offer i chi ddadansoddi marchnadoedd, rheoli risg ac ysgogi arloesedd. 

Mae ein cwrs MSc mewn Cyllid a Dadansoddeg Data Mawr ym Mhrifysgol Abertawe wedi'i ddylunio i integreiddio egwyddorion allweddol cyllid a dadansoddeg data, gan roi'r wybodaeth a'r sgiliau technegol i chi wneud penderfyniadau cyllid yn seiliedig ar ddata a dadansoddi deinameg marchnadoedd cymhleth.  

Gan adfyfyrio ar ofynion esblygiadol y sector cyllid byd-eang, mae'r rhaglen yn darparu sylfaen gref mewn marchnadoedd cyllid, dulliau meintiol, a chymwysiadau data mawr, a fydd yn eich paratoi chi ar gyfer gyrfa ddeinamig yn y diwydiant cyllid, gan gynnwys mewn rolau fel dadansoddwr cyllid, arbenigwr rheoli risg, neu ymgynghorydd dadansoddi data.  

Drwy astudio'r cwrs hwn, byddwch yn gallu ymgysylltu'n feirniadol ag ystyriaethau moesegol, cymdeithasol a chynaliadwyedd sy'n ymwneud â defnyddio data mawr mewn cyllid, gan hyrwyddo gwneud penderfyniadau cyfrifol a gwybodus. 

Mae'r rhaglen drosi blwyddyn o hyd hon yn croesawu myfyrwyr o unrhyw gefndir. Nid oes angen i chi feddu ar gefndir mewn cyfrifeg, cyllid neu fusnes i astudio'r cwrs blwyddyn o hyd hwn. Mae'r cwricwlwm yn adeiladu ar addysgu israddedig ac yn eich galluogi i drosglwyddo'n gyflym i yrfaoedd proffesiynol mewn cyllid, dadansoddi data neu feysydd cysylltiedig unrhyw le yn y byd. 

Pam Cyllid a Dadansoddeg Data Mawr yn Abertawe?

Mae dewis Abertawe yn golygu ymuno â phrifysgol sydd ag enw da rhyngwladol am addysg cyllid ac ymrwymiad i baratoi graddedigion ar gyfer dyfodol y diwydiant. Mae ein gradd MSc mewn Cyllid a Dadansoddeg Data Mawr yn cael ei haddysgu gan academyddion sy'n cyfuno arbenigedd ymchwil â gwybodaeth ymarferol gan sicrhau bod eich addysgu'n adlewyrchu'r datblygiadau diweddaraf ym maes technoleg ariannol, data mawr a dadansoddeg. 

Byddwch yn astudio ar Gampws y Bae, campws modern sy’n gartref i’r Ysgol Reolaeth y buddsoddwyd £22 miliwn ynddi. Byddwch yn elwa o amgylchedd bywiog a chydweithredol sy'n gwerthfawrogi arloesedd a safbwyntiau byd-eang. Mae'r rhaglen drosi hon wedi'i dylunio ar gyfer graddedigion o unrhyw ddisgyblaeth, felly nid oes arnoch angen gefndir mewn cyllid i lwyddo. 

Mae technoleg ddigidol wedi'i gwreiddio drwy gydol y rhaglen, gan roi mynediad i chi at feddalwedd, offer rhaglennu a phlatfformau delweddu data o safon y diwydiant i ddadansoddi setiau data cyllid go iawn a datblygu sgiliau technegol ymarferol. 

Y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth, byddwch yn elwa o'n cysylltiadau cryf â chyrff proffesiynol a chyflogwyr. Gan ddefnyddio ein cysylltiadau agos â chyrff proffesiynol gan gynnwys Sefydliad Siartredig y Dadansoddwyr Ariannol (CFA), Sefydliad Siartredig y Bancwyr, a sefydliadau blaenllaw eraill, byddwch chi'n cael cyfle i rwydweithio, mynd i ddarlithoedd gwadd ac ymgysylltu â'r diwydiant. 

Gyda'n ffocws ar gyflogadwyedd, ymarfer moesegol, a chynaliadwyedd, byddwch yn graddio â'r sgiliau, yr hyder, a'r cysylltiadau i ffynnu mewn byd ariannol sy'n cael ei lywio gan ddata. 

Mae'r rhaglen wedi'i hachredu gan y Gymdeithas Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA) ac mae’n cynnwys sawl eithriad. Hefyd mae gan yr Ysgol Reolaeth gysylltiadau cryf â Sefydliad Siartredig y Dadansoddwyr Ariannol (CFA), Sefydliad Siartredig y Bancwyr, Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr Rheoli (CIMA), Sefydliad Siartredig Gwarantau a Buddsoddiad, Sefydliad Siartredig Cyfrifwyr Cymru a Lloegr (ICAEW). Bydd y berthynas agos hon â chyrff proffesiynol yn gwella rhagolygon gyrfa, gan roi mantais gystadleuol i raddedigion yn y farchnad swyddi fyd-eang. 

Eich Profiad Cyllid a Dadansoddeg Data Mawr

O'r diwrnod cyntaf yn yr Ysgol Reolaeth, byddwn yn gweithio gyda chi er mwyn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau a'ch profiad i wella eich rhagolygon gyrfa. 

Trwy ymuno â’n gradd MSc mewn Cyllid a Dadansoddeg Data Mawr, byddwch chi’n cael profiad o amgylchedd dysgu rhyngweithiol, cynhwysol sydd wedi’i ddylunio i’ch paratoi chi ar gyfer realiti byd ariannol sy’n cael ei lywio gan ddata.  

Byddwch yn cael eich addysgu ar gampws modern sef Campws y Bae, lle byddwch yn elwa o gyfleusterau o'r radd flaenaf ac awyrgylch cydweithredol sy'n annog arloesedd a meddwl byd-eang. Bydd eich astudiaethau'n cyfuno theori â chymhwysiad ymarferol drwy weithdai rhaglennu, labordai dadansoddeg data, a dysgu ar sail achosion sy'n adlewyrchu heriau ariannol y byd go iawn.  

Byddwch chi'n datblygu sgiliau technegol gydag offer megis Python, SQL a platfformau delweddu data, wrth feithrin hyder mewn cymhwyso modelau ariannol a dehongli setiau data cymhleth. 

Mae technoleg ddigidol wedi’i gwreiddio drwy gydol y rhaglen, gan roi mynediad i chi at ddarlithoedd sydd wedi'u recordio, adnoddau rhyngweithiol a lleoedd cydweithredol ar-lein drwy Canvas. Mae'r hyblygrwydd hwn yn eich galluogi chi i ddysgu ar eich cyflymdra eich hun wrth gymryd rhan mewn prosiectau grŵp a fforymau trafod sy'n meithrin gwaith tîm a’r gallu i ddatrys problemau. 

Byddwch yn rhan o garfan amrywiol, ryngwladol, gan rannu syniadau a safbwyntiau a fydd yn cyfoethogi eich dealltwriaeth o gyllid byd-eang. Bydd cyfleoedd rheolaidd i fyfyrio a chael adborth yn eich helpu chi i olrhain eich cynnydd, tra bydd tiwtora personol a chefnogaeth academaidd yn sicrhau eich bod yn teimlo eich bod wedi'ch tywys drwy gydol eich taith. 

Erbyn i chi raddio, bydd gennych chi fwy nag arbenigedd technegol, bydd gennych yr hyblygrwydd, y sgiliau meddwl yn feirniadol a'r hyder proffesiynol i ffynnu mewn amgylcheddau ariannol byd-eang sy'n newid yn gyflym. 

Cyfleoedd Cyflogaeth Cyllid a Dadansoddeg Data Mawr

Mae gennym hanes ardderchog o sicrhau lleoliadau gwaith i raddedigion gyda chwmnïau amlwladol mawr, a bydd eich gradd MSc mewn Cyllid a Dadansoddeg Data Mawr yn rhoi mantais gystadleuol i chi mewn diwydiant sy'n esblygu'n gyflym.  

Gydag achrediad Cymdeithas Siartredig y Cyfrifwyr Ardystiedig (ACCA), gallwch ddangos i gyflogwr bod gennych chi'r wybodaeth ariannol gref, yr arbenigedd technegol a'r sgiliau meddwl yn strategol sydd eu hangen i lwyddo mewn amgylcheddau busnes cymhleth. 

Mae galw mawr am raddedigion y rhaglen hon ar draws ystod eang o ddiwydiannau, gan gynnwys cyllid a bancio, technoleg a thechnoleg ariannol, ymgynghori, gofal iechyd, e-fasnach, gweithgynhyrchu, y llywodraeth ac ynni. Mae'r radd hon yn rhoi'r gallu i chi drosi data cymhleth yn strategaethau busnes gweithredol ac ariannol, gan ei gwneud yn hynod amlbwrpas ac yn barod am y dyfodol. 

Mae llwybrau gyrfa arferol yn cynnwys rolau megis: 

  • dadansoddwr ariannol, gwyddonydd data, dadansoddwr meintiol, rheolwr deallusrwydd busnes, dadansoddwr risg ac arbenigwr dysgu peirianyddol.

Mae llawer o raddedigion hefyd yn symud ymlaen i swyddi uwch megis Prif Swyddog Data neu Brif Swyddog Technoleg, neu’n symud ymlaen i rolau ymgynghori a rheoli prosiect lle mae gwneud penderfyniadau ar sail data'n allweddol. I'r rhai hynny sydd â diddordeb mewn ymchwil neu'r byd academaidd, mae'r rhaglen hon yn sylfaen ardderchog ar gyfer astudiaethau pellach, gan gynnwys graddau PhD mewn cyllid neu economeg. 

Drwy gyfuno gwybodaeth ariannol uwch â sgiliau dadansoddi data arloesol, mae'r cwrs MSc hwn yn agor drysau i yrfaoedd mewn bancio buddsoddi, rheoli asedau, technoleg ariannol a thu hwnt, gan eich paratoi chi i ffynnu yn y dirwedd ariannol fyd-eang sy'n cael ei llywio gan ddata.

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.