Trosolwg o'r Cwrs
Gallwch ddatblygu'r sgiliau technegol i archwilio a datgelu patrymau mewn data a mynd i'r afael â heriau busnes hanfodol sy'n effeithio ar y diwydiant cyllid heddiw.
Mae'r cwrs MSc mewn Dadansoddeg Ariannol ym Mhrifysgol Abertawe yn rhaglen arbenigol sy'n dechnegol ac yn ymarferol ei natur. Mae wedi'i ddylunio ar gyfer y rhai sydd am lansio gyrfa ddeinamig yn y diwydiant cyllid a buddsoddiadau, mewn rolau fel Arbenigwr Data, Ymgynghorydd neu Reolwr Portffolio, yn ogystal â'r rhai sydd am ymgymryd ag ymchwil bellach ym maes cyllid drwy PhD. Er y dylai ymgeiswyr feddu ar radd israddedig neu gyfwerth mewn maes meintiol, nid oes angen profiad o gyfrifiadureg na rhaglennu.
Byddwch yn archwilio pynciau allweddol, megis data mawr ym maes cyllid, rhaglennu ar gyfer cymwysiadau ariannol, econometreg, rhagfynegi risg ariannol a dadansoddeg data uwch. Hefyd, byddwch yn meithrin y sgiliau i ddefnyddio data mawr a dadansoddeg data, ieithoedd rhaglennu (e.e. Python, R) ac offer delweddu i'ch helpu i roi modelau dadansoddeg ariannol priodol ar waith ac i lywio penderfyniadau buddsoddi'n effeithiol.
Gallwch gael profiad o'n hymagwedd at addysgu sy'n seiliedig ar ymchwil ac elwa ar y gwaith arloesol a wneir gan ein canolfan ymchwil sef Canolfan Cyllid Empirig Hawkes, sy'n cynnal ymchwil arloesol i hybu dealltwriaeth, gwaith datblygu a gwaith cymhwyso ynghylch dulliau a thechnegau sy'n berthnasol i ddadansoddi data cyllid a macro-economeg.
Mae'r rhaglen uwch hon yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr sydd â chefndir mewn economeg, gwyddoniaeth, mathemateg, cyfrifeg neu gyllid sydd am fynd ymhellach â'u hastudiaethau, yn ogystal â gweithwyr proffesiynol sydd am atgyfnerthu eu gwybodaeth neu wella eu sgiliau yn eu maes.