Rheoli Buddsoddiadau, MSc

Cyfle i ddatblygu gwybodaeth arbenigol o broses rheoli buddsoddiadau

myfyrwyr yn gweithio gyda ' i gilydd

Trosolwg o'r Cwrs

Ydych chi’n chwilio am radd arbenigol a fydd yn eich paratoi am yrfa ddynamig fel masnachwr neu reolwr buddsoddi?

Bydd angen ymagwedd bwyllog, sgiliau cyfathrebu gwych a meddylfryd dadansoddol arnoch i lwyddo ym myd cystadleuol rheoli buddsoddiadau. Yn ogystal â dehongli'r marchnadoedd ariannol, bydd angen i chi feithrin perthnasau busnes hirdymor a bod yn benderfynol ac yn hyderus.

Mae'r rhaglen Rheoli Buddsoddiadau ym Mhrifysgol Abertawe yn canolbwyntio ar reoli cyllid a buddsoddiadau a byddwch yn meithrin dealltwriaeth fanwl o reoli asedau a risgiau mewn sefydliadau cymhleth.

Mae'r rhaglen uwch hon yn addas i fyfyrwyr sydd eisoes wedi astudio cyfrifeg a/neu gyllid ar lefel israddedig.

Mae eich gradd wedi'i hachredu gan Sefydliad y Dadansoddwyr Ariannol Siartredig (CFA) ac mae gan y rhaglen statws Prifysgol Gysylltiol. Cewch gyfle hefyd i astudio am gymhwyster arall gan y CFA ochr yn ochr â'ch gradd meistr.

Bydd y cysylltiad agos hwn â'r CFA, cymdeithas fyd-eang o ymarferwyr buddsoddi proffesiynol sy'n pennu safon rhagoriaeth y sector, yn rhoi hwb i'ch rhagolygon gyrfa ac yn eich galluogi i ffynnu ym myd cystadleuol heddiw.

Pam Rheoli Buddsoddiadau yn Abertawe?

  • Rhaglen arbenigol uwch y gellir ei chwblhau mewn un flwyddyn
  • Mae wedi'i chynllunio ar gyfer graddedigion meysydd ariannol sy'n chwilio am raglen arbenigol a fydd yn cynnig llwybr carlam i yrfaoedd mewn cyllid a buddsoddiadau
  • Addysgir ein holl fodiwlau gan ein hacademyddion o'r radd flaenaf sy'n meddu ar wybodaeth academaidd a phrofiad proffesiynol
  • Achrediad corff proffesiynol sy'n gallu rhoi hwb i'ch gyrfa
  • Addysgir ein rhaglenni myfyrwyr yn adeilad gwerth £22 miliwn yr Ysgol Reolaeth ar gampws y Bae
  • Mae'r Ysgol Reolaeth wedi'i hachredu gan AACSB International, cymdeithas addysg fusnes fwyaf y byd, sy'n cysylltu ysgolion busnes, busnesau a dysgwyr, i greu'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr gwych.

Eich Profiad Rheoli Buddsoddiadau

O'r funud rydych yn cyrraedd yr Ysgol Reolaeth, byddwn yn gweithio gyda chi i’ch helpu i feithrin eich sgiliau a'ch profiad er mwyn cyfoethogi'ch cyfleoedd gyrfa.

Cewch gyngor pwrpasol, un i un, diderfyn ar yrfaoedd gan ein tîm gyrfaoedd ymroddedig. Cewch gyfle i wneud lleoliad gwaith neu interniaeth drwy Rwydwaith Interniaeth â Thâl Abertawe (SPIN) neu'r fenter Wythnos o Waith.

Mae ein holl fyfyrwyr yn elwa o rannu'r safle arloesol ar Gampws y Bae â phartneriaid diwydiannol. Mae ein cyfleusterau'n cynnwys mannau wedi'u neilltuo i addysgu ac astudio, a chyfleusterau TG helaeth â'r galedwedd a'r feddalwedd arbenigol ddiweddaraf.

Cyfleoedd Cyflogaeth Rheoli Buddsoddiadau

Mae gennym brofiad helaeth o leoli ein graddedigion gyda chwmnïau amlwladol mawr.

Bydd eich rhaglen MSc Rheoli Buddsoddiadau, sydd wedi'i chymeradwyo gan y CFA, yn profi i gyflogwyr bod gennych alluoedd ym mhob agwedd ar fusnes, a'ch bod yn feddyliwr strategol â gwybodaeth ariannol gref a chraffter busnes. 

Gallai eich cam nesaf fod yn unrhyw un o'r rolau hyn:

  • Masnachwr Buddsoddiadau
  • Dadansoddwr Cyllid
  • Rheolwr Buddsoddiadau

Modiwlau

Byddwch yn astudio amrywiaeth o fodiwlau gorfodol a dewisol yn semester un a dau'r cwrs hwn, cyn ymgymryd â phrosiect/traethawd hir yn annibynnol yn eich trydydd semester.

Ymwadiad: Gall dewis modiwlau newid