Technoleg Ariannol, MSc

Meithrin gwybodaeth arloesol am gymwysiadau ariannol

myfyrwyr yn gweithio gyda'i gilydd

Trosolwg o'r Cwrs

Ydych chi am yrfa mewn sector sy’n ehangu’n gyflym iawn? Awyddus i weithio mewn diwydiant byd-eang arloesol lle bydd gofyn mawr am eich sgiliau?

Mae technolegau sy’n tarfu yn effeithio ar bob maes gwasanaethau ariannol ac er mwyn sicrhau eich bod yn meddu ar y sgiliau i ddod ymlaen yn y maes hwn, mae’r rhaglen MSc mewn Technoleg Ariannol (FinTech) wedi cael ei datblygu ar gyfer graddedigion nad ydynt yn arbenigwyr mewn cyfrifiadureg, sydd â gradd gyntaf mewn busnes, cyllid, mathemateg neu economeg ac sydd eisiau meithrin rhagor o ymwybyddiaeth a sgiliau ym maes Technoleg Ariannol.

Bydd y rhaglen hon yn ystyried defnydd technoleg ariannol ym myd bancio, yswiriant, rheoli asedau a llawer o sectorau ariannol eraill. Byddwch yn cael gwybodaeth arloesol am ddefnydd technoleg ‘blockchain’, arian digidol, Data Mawr a deallusrwydd artiffisial yn y byd ariannol.

Hefyd, byddwch yn meithrin dealltwriaeth fanwl o amgylchedd technoleg ariannol, yn meithrin sgiliau o ran rhaglennu, dysgu gan beiriannau a diogelwch rhwydweithiau yn ogystal â gwybodaeth am sefydliadau a systemau’r marchnadoedd ariannol.

Pam Technoleg Ariannol yn Abertawe?

  • Gellir cwblhau’r rhaglen mewn blwyddyn
  • Yn agored i israddedigion heb profiad mewn gyfrifiadureg - bydd gan fyfyrwyr gefndir fel arfer mewn Busnes, Cyllid, Economeg, Mathemateg, neu Gyfrifiadureg. Yr ydym hefyd yn barod i ystyried y rhai sydd â chefndiroedd eraill a phrofiad gwaith yn y sector
  • Caiff pob modiwl ei addysgu gan ein hacademyddion o'r radd flaenaf sydd â gwybodaeth ddiwydiannol ac academaidd
  • Addysgir ein rhaglenni myfyrwyr yn adeilad gwerth £22 miliwn yr Ysgol Reolaeth ar gampws y Bae
  • Mae'r Ysgol Reolaeth wedi'i hachredu gan AACSB International, cymdeithas addysg fusnes fwyaf y byd, sy'n cysylltu ysgolion busnes, busnesau a dysgwyr, i greu'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr gwych.

Eich Profiad Technoleg Ariannol

Mae’r MSc mewn Technoleg Ariannol (FinTech) yn gallu rhoi mantais gystadleuol go-iawn ichi, a bydd yn ehangu eich gorwelion pan fyddwch yn chwilio am waith.

O'r eiliad y byddwch yn cyrraedd yr Ysgol Reolaeth, byddwn yn gweithio gyda chi er mwyn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau a'ch profiad i wella eich rhagolygon gyrfa.

Mae'r addysgu yn Abertawe'n cael ei lywio'n rhannol gan ymchwil ac mae gan ein staff brofiad personol o ddamcaniaeth ac ymarfer, sy'n golygu y gallwch chi elwa o'u harbenigedd academaidd a'u gwybodaeth ymarferol am y diwydiant.

Mae ein holl fyfyrwyr yn elwa o rannu'r safle arloesol ar Gampws y Bae â phartneriaid diwydiannol. Mae ein cyfleusterau'n cynnwys mannau wedi'u neilltuo i addysgu ac astudio, a chyfleusterau TG helaeth â'r galedwedd a'r feddalwedd arbenigol ddiweddaraf.

Cyfleoedd Cyflogaeth Technoleg Ariannol

Mae potensial enfawr o ran ehangu technolegau ariannol mewn economïau datblygol y farchnad, a bydd y rhaglen hon yn creu graddedigion sy’n gymwys am yrfaoedd yn nisgyblaeth gynyddol technoleg ariannol. Mae ystod o ddewisiadau gyrfaol posib ar gael yn y diwydiant gwasanaethau ariannol:

  • Rheolwr Datblygu Busnes
  • Arbenigwr Data
  • Dadansoddwr Ariannol  
  • Rheolwr Cynnyrch
  • Datblygwr

Modiwlau

Fel arfer, bydd modiwlau'n cynnwys: Amgylchedd Technoleg Ariannol; Blockchain, Cêl-Arian a chontractau Clyfar; Data Mawr ym myd Cyllid.

Ymwadiad: Gallai opsiynau dewis modiwlau newid