Rheoli, MSc / PGDip

Datblygwch sgiliau uwch mewn sawl agwedd ar reoli busnes

myfyrwyr yn gweithio gyda ' i gilydd

Trosolwg o'r Cwrs

Ydych chi’n chwilio am radd sy'n caniatáu i chi ddatblygu sgiliau mewn sawl agwedd ar reoli busnes? Efallai fod gennych ddiddordeb mewn marchnata a rheoli rhyngwladol neu ddechrau'ch cwmni eich hun. Neu efallai yr hoffech ddatblygu dealltwriaeth gadarn o gadwyni cyflenwi byd-eang yn ogystal â dadansoddeg busnes?

Mae'r rhaglen MSc Rheoli ym Mhrifysgol Abertawe yn rhoi'r rhyddid i chi wneud hynny. Mae’r rhaglen ar gael ar ffurf rhaglen gyffredinol sy’n rhoi’r rhyddid i chi ddewis o ystod o fodiwlau dewisol yn eich ail semester neu fodiwlau â llwybrau penodedig sy’n eich galluogi i arbenigo mewn agwedd benodol ar fusnes (a bydd hyn yn ymddangos ar eich tystysgrif gradd derfynol.

Cynlluniwyd y rhaglen i roi pwyslais pendant ar reoli mewn cymuned fyd-eang gysylltiedig. Mae'n ymdrin â chysyniadau rheoli craidd, megis rheoli adnoddau ariannol, rheoli gweithrediadau, rheoli adnoddau dynol a rheoli marchnata i roi sylfaen gadarn i chi mewn amrywiaeth o egwyddorion busnes dynamig ac i wella'ch cyflogadwyedd.

Mae'r cwrs wedi'i achredu gan y Sefydliad Rheoli Siartredig (CMI), yr unig gorff proffesiynol siartredig yn y DU a sefydlwyd yn unswydd i hyrwyddo'r safonau uchaf o ran rhagoriaeth rheoli ac arwain, ac mae ar agor i fyfyrwyr o unrhyw ddisgyblaeth a hoffai weithio ym maes busnes neu reoli.

Gwyddom ein bod yn byw mewn byd cystadleuol. I'ch helpu i fanteisio i'r eithaf ar eich astudiaethau ac achub y blaen ar eich cystadleuwyr, mae’r rhaglen hefyd yn cynnwys modiwl sgiliau academaidd sy’n ymdrin â materion megis dulliau ymchwil.

Pam Rheoli yn Abertawe?

  • Mae'r Ysgol Reolaeth wedi'i hachredu gan AACSB International, cymdeithas addysg fusnes fwyaf y byd, sy'n cysylltu ysgolion busnes, busnesau a dysgwyr, i greu'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr gwych.
  • Ar agor i ymgeiswyr nad oes ganddynt unrhyw brofiad blaenorol o bynciau busnes neu reoli
  • Addysgir ein holl fodiwlau gan ein hacademyddion o'r radd flaenaf sy'n meddu ar wybodaeth academaidd a phrofiad proffesiynol
  • Achrediad gan y corff proffesiynol sy'n gallu helpu i hwyluso eich gyrfa
  • Addysgir ein rhaglenni myfyrwyr yn adeilad gwerth £22 miliwn yr Ysgol Reolaeth ar gampws y Bae
  • Mae Astudiaethau Busnes a Rheoli wedi'i roi yn safle 83 yn Nhablau Prifysgolion y Byd QS fesul Pwnc 2025

Eich Profiad Rheoli

O'r funud rydych yn cyrraedd yr Ysgol Reolaeth, byddwn yn gweithio gyda chi i’ch helpu i feithrin eich sgiliau a'ch profiad er mwyn cyfoethogi'ch cyfleoedd gyrfa.

Cewch gyngor pwrpasol, un i un, diderfyn ar yrfaoedd gan ein tîm gyrfaoedd ymroddedig. Cewch gyfle i wneud lleoliad gwaith neu interniaeth drwy Rwydwaith Interniaeth â Thâl Abertawe (SPIN) neu'r fenter Wythnos o Waith.

Mae ein holl fyfyrwyr yn elwa o rannu'r safle arloesol ar Gampws y Bae â phartneriaid diwydiannol. Mae ein cyfleusterau'n cynnwys mannau wedi'u neilltuo i addysgu ac astudio, a chyfleusterau TG helaeth â'r galedwedd a'r feddalwedd arbenigol ddiweddaraf.

Cyfleoedd Cyflogaeth Rheoli

Mae gennym brofiad helaeth o leoli ein graddedigion gyda chwmnïau amlwladol mawr.

Bydd eich rhaglen Rheoli, gyda'i hachrediad gan y CMI, yn rhoi cyfleoedd i chi weithio mewn amrywiaeth eang o sectorau a ffynnu yn y farchnad gystadleuol hon.

Gallai eich cam nesaf fod yn unrhyw un o'r rolau hyn:

  • Entrepreneur
  • Rheolwr Datblygu Busnes
  • Ymgynghorydd Rheoli
  • Dadansoddwr neu Ymchwilydd

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Cynnig Nodweddiadol

2.2