Rheoli Adnoddau Dynol, MSc / PGDip

Yn rhoi datblygiad a lles gweithwyr wrth wraidd y rhaglen

Myfyrwyr yn gweithio

Trosolwg o'r Cwrs

Ydych chi am fod yn weithiwr proffesiynol sy'n ymwneud â phobl ac sy'n creu effaith, gan roi lles eich gweithlu wrth wraidd eich gwaith?

Bydd y rhaglen arbenigol hon yn rhoi mantais gystadleuol i chi wrth gychwyn ym myd rheoli pobl. Byddwch yn meithrin gwybodaeth a sgiliau amhrisiadwy i weithio ar draws sefydliadau o bob maint a sector. Wrth wneud hynny, byddwch yn gallu rheoli a datblygu gweithlu yn llwyddiannus, wrth hefyd ategu strategaeth eich sefydliad ar gyfer llwyddiant.

Gan fod datblygiad a lles gweithwyr wrth wraidd y rhaglen, mae ein graddedigion yn sicrhau cynaliadwyedd sefydliadau drwy reoli unigolion yn ofalus. Mae'r rhaglen hon yn addas i raddedigion yn ogystal â'r rhai hynny sydd â phrofiad o reoli pobl sydd am ennill cymhwyster ôl-raddedig arbenigol.

Mae'r PGDip mewn Rheoli Adnoddau Dynol yn radd ôl-raddedig alwedigaethol fyrrach sy'n cynnig hyfforddiant arbenigol mewn rheoli adnoddau dynol. Mae'r cwrs hwn yn addas i swyddogion AD proffesiynol sydd â diddordeb mewn datblygu gyrfa ac am wella eu CV mewn llai o amser.

Mae'r rhaglen hon wedi'i hachredu gan y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD) sy'n dangos ei hymrwymiad i ddarparu addysg o ansawdd uchel a meithrin rhagoriaeth ym maes adnoddau dynol.

Ar ôl cofrestru ar ein cwrs MSc Rheoli Adnoddau Dynol byddwch yn gymwys i ymuno â'r CIPD fel myfyriwr yn ystod eich astudiaethau. Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus, mae aelodau sy'n fyfyrwyr yn gymwys i uwchraddio i Aelodaeth Gysylltiol o'r CIPD gyda'r cyfle i ymgeisio i uwchraddio i Aelodaeth Siartredig*, gan sicrhau mynediad at feincnod a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer rhagoriaeth yn y proffesiwn AD.

 

Pam Rheoli Adnoddau Dynol yn Abertawe?

  • Mae'r Ysgol Reolaeth wedi'i hachredu gan AACSB International, cymdeithas addysg fusnes fwyaf y byd, sy'n cysylltu ysgolion busnes, busnesau a dysgwyr, i greu'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr gwych.
  • Gellir cwblhau'r rhaglen mewn un flwyddyn
  • Mae ar agor i raddedigion o bob cefndir, gan gynnwys y rhai sydd eisoes yn gweithio yn y sector
  • Mae'r rhaglen hon yn alinio â safonau proffesiynol y proffesiwn Adnoddau Dynol yn y DU, ac mae'n archwilio tueddiadau byd-eang, deddfwriaeth ac achosion amlwg o arferion gorau yn y maes
  • Darparwr cymeradwy cymhwyster y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD)
  • Mae Astudiaethau Busnes a Rheoli wedi'i roi yn safle 83 yn Nhablau Prifysgolion y Byd QS fesul Pwnc 2025

Eich Profiad Rheoli Adnoddau Dynol

Bydd cwblhau'r rhaglen hon yn eich galluogi i ddod yn weithiwr proffesiynol AD y mae galw mawr amdano, sy'n gweithredu â gonestrwydd ac yn gwneud cyfraniadau cadarnhaol mewn sefydliadau o unrhyw faint ac mewn unrhyw sector.  Yn y bôn, pobl sydd wrth wraidd y radd hon.

O'ch diwrnod cyntaf yn yr Ysgol Reolaeth, byddwn yn gweithio gyda chi er mwyn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau a'ch profiad i wella eich datblygiad gyrfa.  Byddwch yn cael eich addysgu gan dîm rhaglen amrywiol sydd ag arbenigedd mewn rheoli ac arwain pobl yn y gweithle.  Mae hyn yn cynnwys staff sydd â chefndiroedd fel ymarferwyr AD sy'n deall realiti rheoli pobl yn effeithiol, ac academyddion sy'n arbenigo mewn ymchwil arloesol mewn meysydd sy'n gysylltiedig ag AD fel cysylltiadau cyflogaeth neu ymddygiad sefydliadol. 

Cyfleoedd Cyflogaeth Rheoli Adnoddau Dynol

Gall yr MSc mewn Rheoli Adnoddau Dynol roi mantais gystadleuol go iawn i chi a bydd yn ehangu eich gorwelion pan ddaw'r amser i chwilio am gyflogaeth. 

Mae gan yr Ysgol Reolaeth system gefnogaeth wych i gynorthwyo gyda datblygiad gyrfa: i’r rhai hynny nad oes ganddynt brofiad ym maes Adnoddau Dynol, bydd yr MSc yn gam cyntaf ar y daith i weithio yn y sector ar lefel ymgynghorydd neu swyddog AD, ond i eraill, gall y rhaglen hon ddarparu cymhwyster ffurfiol i gydnabod y profiad sydd ganddynt eisoes.

Cynlluniwyd y rhaglen MSc mewn Rheoli Adnoddau Dynol yn benodol i alluogi'r rhai hynny sydd wedi dechrau eu gyrfaoedd ym maes Rheoli AD yn ddiweddar, neu'r rhai hynny sydd am ddechrau gyrfa o'r fath, i ennill cymhwyster Meistr arbenigol mewn Rheoli AD.  Mae'r radd hon hefyd yn addas ar gyfer y rhai hynny sydd â phrofiad sylweddol o reoli pobl ac sy'n chwilio am achrediad proffesiynol.  I'r rhai hynny sydd am barhau â'u taith academaidd, ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus mae cyfleoedd i fynd ar drywydd ymchwil ddoethurol gyda ni.  Fel hyn, gall y rhaglen Meistr fod yn rhan o lwybr gyrfa ar gyfer ymarferydd proffesiynol ym maes rheoli pobl, sydd am amgyffred â phob agwedd ar arweinyddiaeth beth bynnag yw'r rôl.

Modiwlau

Ar y rhaglen un flwyddyn, byddwch yn astudio amrywiaeth o fodiwlau yn ystod semestrau un a dau'r cwrs, cyn ymgymryd â phrosiect annibynnol yn eich trydydd semester er mwyn rhoi ar waith yr wybodaeth a'r sgiliau dadansoddi a ddysgwyd gennych ar y rhaglen. Gallwch astudio ar sail ran-amser hefyd, dros ddwy flynedd.

Mae pwyslais y modiwlau'n adlewyrchu arferion gwaith y DU yn bennaf ond, oherwydd natur cyflogaeth, mae'n anochel y byddwn yn llunio cymariaethau rhyngwladol o astudio sefydliadau amlwladol sy'n gweithredu yn y DU.

Mae'r rhaglen yn cynnwys amrywiaeth o fodiwlau sy'n darparu sylfaen i astudio Rheoli AD ar lefel uwch a ffordd integredig o ymgyfarwyddo ag egwyddorion ac ymarfer y sector Rheoli AD modern, gan eich galluogi i feithrin gwybodaeth a sgiliau mewn agweddau penodol ar Reoli AD.

Ymwadiad: Gall y dewis o fodiwlau newid