Trosolwg o'r Cwrs
A oes gennych ymwybyddiaeth fasnachol gref a diddordeb mewn rheoli cyflenwi ym marchnadoedd byd-eang a hynod gystadleuol yr oes sydd ohoni?
Mae'r rhaglen MSc Rheoli (Rheoli Gweithrediadau a Chyflenwi) ym Mhrifysgol Abertawe ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb amlwg mewn deall sut y caiff cynhyrchion a gwasanaethau eu creu a'u dosbarthu, a dysgu sut y gellir gwella'r broses hon ar gyfer cwmnïau'r 21ain ganrif. Cynlluniwyd y cwrs gradd yn benodol â ffocws clir ar reoli mewn cymuned fyd-eang gyd-gysylltiedig.
Mae'r cwrs yn cynnig cyfle i chi ganolbwyntio ar fodiwlau sy'n ymwneud â rheoli cadwyni cyflenwi byd-eang a rheoli prosiectau. Mae hefyd yn mynd i'r afael â chysyniadau rheoli craidd fel rheoli adnoddau ariannol, rheoli gweithrediadau, rheoli adnoddau dynol a rheoli gwaith marchnata.
Wedi’i achredu gan y Sefydliad Rheolaeth Siartredig (CMI), sef yr unig gorff proffesiynol siartredig yn y Deyrnas Unedig yn benodol ar gyfer hyrwyddo’r safonau uchaf mewn rhagoriaeth rheoli ac arweinyddiaeth, mae’r cwrs ar agor i fyfyrwyr o unrhyw ddisgyblaeth a hoffai weithio ym myd busnes neu reoli. Ar ôl gorffen y modiwlau a fapiwyd yn y cwrs gradd MSc mewn rheoli byddwch chi’n cymhwyso ar gyfer Tystysgrif mewn Rheoli ac Arweinyddiaeth Strategol Lefel 7 y Sefydliad Rheolaeth Siartredig.
Gwyddom fod hwn yn fyd cystadleuol. Er mwyn eich helpu i gael y gorau o'ch astudiaethau a chael mantais dros eich cystadleuwyr, mae'r rhaglen hefyd yn cynnwys modiwl sgiliau academaidd sy'n cwmpasu materion fel dulliau ymchwil.