Trosolwg o'r Cwrs
Ydych chi am chwarae eich rhan yn lunio dyfodol iechyd a gofal cymdeithasol? Ydych chi am yrru a gweithredu systemau sy'n seiliedig ar Werth; lle mae iechyd, gofal cymdeithasol, y trydydd sector a gwyddor bywyd yn gweithio law yn llaw i greu'r canlyniadau gorau posibl i gleifion a defnyddwyr gwasanaethau yn ogystal â'r llinell waelod?
Mae gofyniad cynyddol i systemau iechyd a gofal cymdeithasol i fabwysiadu gallu sy'n seiliedig ar werthoedd; er mwyn arwain trawsnewid sefydliadol a thrawsnewid ar draws y system. Mae'r heriau yn y dyfodol yn galw am ddull newydd a radical, wedi'i ategu gan egwyddorion darbodus, i arwain newid, harneisio technolegau aflonyddgar newydd a herio diben, gwerth a lleoliad y gwasanaethau a ddarperir ar hyn o hyd i gleifion.
Gyda fformat unigryw sy'n cydymdeimlo â rôl dysgwyr proffesiynol o ddiwydiannau iechyd, gofal cymdeithasol, y trydydd sector a gwyddor bywyd, mae'n defnyddio ac yn cymhwyso'r wybodaeth a gafwyd er budd yr unigolyn a'r system.
Nod y Radd Meistr hon yw galluogi unigolion i ymgolli yn y paradeim newydd o werth mewn iechyd a gofal; sut i'w weithredu'n ymarferol ar lefel poblogaeth ac unigol, gan gasglu canlyniadau sy'n bwysig, defnyddio technolegau digidol, defnyddio modelau costio newydd, dulliau caffael arloesol a mabwysiadu dull llwybr gofal cyfan.
Byddwch yn datblygu'r sgiliau angenrheidiol i weithredu strategaeth arloesol sy'n seiliedig ar Werth o fewn sefydliad.