Trosolwg o'r Cwrs
Nod yr MSc mewn Rheoli Prosiectau yw rhoi hyfforddiant cadarn i chi, gan gynnwys sylfeini, modelau, offer a thechnegau rheoli prosiectau, wrth ymgorffori elfennau hanfodol dadansoddi data a systemau data mawr, gan eich galluogi chi i fod yn rheolwr prosiectau gwybodus.
Mae ein rhaglen yn mynd y tu hwnt i wybodaeth ddamcaniaethol. Gyda chyfranogiad gweithredol gan arbenigwyr diwydiant a busnes, rydym yn pwysleisio sgiliau ymarferol, senarios byd go iawn, a phrofiad ymarferol. Byddwch yn cael y cyfle i ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol, cymryd rhan mewn gweithdai, mynd i'r afael â heriau prosiect-benodol, ac ennill cymwysterau ychwanegol sy'n benodol i'r diwydiant. Mae'r dull ymdrochi hwn yn sicrhau eich bod yn barod am swydd ac yn gallu addasu ar ôl graddio.
Bydd cydweithredu â byd diwydiant yn rhan hanfodol o'r rhaglen hon. Byddwn ni'n sefydlu cysylltiadau agos â'r sectorau gweithgynhyrchu, peirianneg, awyrofod ac adeiladu, a byddwn ni'n hyrwyddo cyfleoedd i arbenigwyr yn y maes gyflwyno darlithoedd gwadd. Bydd hyn yn eich galluogi chi i ennill gwybodaeth hollbwysig am y diwydiant a dysgu'n uniongyrchol gan ymarferwyr arbenigol.
Byddwn hefyd yn hwyluso digwyddiadau rhwydweithio ac ymweliadau safle. Yn bwysicach na hynny, bydd y prosiectau grŵp, sy'n gwasanaethu fel elfen fwyaf y cwrs, yn cael eu darparu gan ddiwydiant, a bydd y myfyrwyr ar y rhaglen hon, gan weithio fel tîm, yn cael cyfleoedd i ryngweithio â diwydiant, meithrin perthnasoedd, ac archwilio gyrfaoedd posibl yn y sector.
Erbyn i chi gwblhau'r rhaglen, byddwch chi wedi meistroli'r broses o reoli prosiectau, gan gynnwys meddwl am syniadau, cynllunio, rheoli risgiau a chyllidebu, rheoli amser wrth gyflwyno'r prosiect, rhoi'r prosiect ar waith a monitro a gwerthuso, gan gwmpasu'r holl sbectrwm o reoli prosiectau.