Rheoli (Rheoli Adnoddau Dynol), MSc

Dysgwch am heriau rheoli gweithlu byd-eang

Myfyrwyr

Trosolwg o'r Cwrs

Oes gennych uchelgais i fod yn rheolwr? Oes gennych sgiliau cyfathrebu gwych, ydych chi'n drefnus ac yn benderfynol? Allwch chi fod yn ddiduedd ac yn wrthrychol a chymell pobl i wneud eu gorau? Os hoffech greu argraff dda a dringo ysgol gyrfa mewn rheoli busnes, bydd angen i chi ddysgu gan yr arbenigwyr am sut i lwyddo.

Cynlluniwyd yr MSc Rheoli (Rheoli Adnoddau Dynol) ym Mhrifysgol Abertawe ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb yn yr elfen ddynol o reoli busnes - o ddulliau clasurol o reoli adnoddau dynol i feysydd megis arweinyddiaeth a rheoli elfennau dynol busnes mewn cyd-destun byd-eang dynamig.

Byddwch hefyd yn astudio rheoli mewn cymuned fyd-eang gyd-gysylltiedig yn ogystal â chysyniadau rheoli craidd, megis rheoli adnoddau ariannol, rheoli gweithrediadau, rheoli adnoddau dynol a rheoli marchnata, i roi sylfaen gadarn i chi mewn amrywiaeth o egwyddorion busnes dynamig.

Wedi’i achredu gan y Sefydliad Rheolaeth Siartredig (CMI), sef yr unig gorff proffesiynol siartredig yn y Deyrnas Unedig yn benodol ar gyfer hyrwyddo’r safonau uchaf mewn rhagoriaeth rheoli ac arweinyddiaeth, mae’r cwrs ar agor i fyfyrwyr o unrhyw ddisgyblaeth a hoffai weithio ym myd busnes neu reoli. Ar ôl gorffen y modiwlau a fapiwyd yn y cwrs gradd MSc mewn rheoli byddwch chi’n cymhwyso ar gyfer Tystysgrif mewn Rheoli ac Arweinyddiaeth Strategol Lefel 7 y Sefydliad Rheolaeth Siartredig.

Gwyddom ein bod yn byw mewn byd cystadleuol. I'ch helpu i fanteisio i'r eithaf ar eich astudiaethau ac i achub y blaen ar eich cystadleuwyr, mae’r rhaglen hefyd yn cynnwys modiwl ar sgiliau academaidd sy’n ymdrin â materion megis dulliau ymchwil.

Pam Rheoli (Rheoli Adnoddau Dynol) yn Abertawe?

  • Mae'r Ysgol Reolaeth wedi'i hachredu gan AACSB International, cymdeithas addysg fusnes fwyaf y byd, sy'n cysylltu ysgolion busnes, busnesau a dysgwyr, i greu'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr gwych.
  • Ar agor i ymgeiswyr nad oes ganddynt unrhyw brofiad blaenorol o bynciau busnes neu reoli
  • Addysgir ein holl fodiwlau gan ein hacademyddion o'r radd flaenaf sy'n meddu ar wybodaeth academaidd a phrofiad proffesiynol
  • Achrediad gan y corff proffesiynol (gan ddibynnu ar y modiwlau rydych yn eu dewis) sy'n gallu helpu i hwyluso eich gyrfa
  • Addysgir ein rhaglenni myfyrwyr yn adeilad gwerth £22 miliwn yr Ysgol Reolaeth ar gampws y Bae
  • Mae Astudiaethau Busnes a Rheoli wedi'i roi yn safle 83 yn Nhablau Prifysgolion y Byd QS fesul Pwnc 2025

Eich Profiad Rheoli (Rheoli Adnoddau Dynol)

O'r funud rydych yn cyrraedd yr Ysgol Reolaeth, byddwn yn gweithio gyda chi i’ch helpu i feithrin eich sgiliau a'ch profiad er mwyn cyfoethogi'ch cyfleoedd gyrfa.

Cewch gyngor pwrpasol, un i un, diderfyn ar yrfaoedd gan ein tîm gyrfaoedd ymroddedig. Cewch gyfle i wneud lleoliad gwaith neu interniaeth drwy Rwydwaith Interniaeth â Thâl Abertawe (SPIN) neu'r fenter Wythnos o Waith.

Mae ein holl fyfyrwyr yn elwa o rannu'r safle arloesol ar Gampws y Bae â phartneriaid diwydiannol. Mae ein cyfleusterau'n cynnwys mannau wedi'u neilltuo i addysgu ac astudio, a chyfleusterau TG helaeth â'r galedwedd a'r feddalwedd arbenigol ddiweddaraf.

Cyfleoedd Cyflogaeth Rheoli (Rheoli Adnoddau Dynol)

Mae gennym brofiad helaeth o leoli ein graddedigion gyda chwmnïau aml-wladol mawr.

Bydd eich rhaglen Rheolaeth (Rheoli Adnoddau Dynol), gyda'i hachrediad gan y CMI, yn rhoi cyfleoedd i chi weithio mewn amrywiaeth eang o sectorau a ffynnu yn y farchnad gystadleuol hon.

Gallai eich cam nesaf fod yn unrhyw un o'r rolau hyn:

  • Partner Busnes Adnoddau Dynol
  • Rheolwr Datblygu Busnes
  • Ymgynghorydd Rheoli

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Cynnig Nodweddiadol

2.2