Rheoli (Rheoli Rhyngwladol), MSc

Ffocws ar fusnes mewn marchnad fyd-eang gyd-gysylltiedig

Myfyrwyr

Trosolwg o'r Cwrs

A oes gennych ddiddordeb mewn dilyn gyrfa ym myd cyffrous busnes rhyngwladol? A hoffech weithio dramor neu mewn sefydliadau sy'n ymwneud â busnes ar raddfa fyd-eang? Mae'n farchnad sy'n tyfu, gyda llawer o gyfleoedd am swyddi, wrth i gwmnïau ledled y byd ddod yn fwy cysylltiedig a chwilio am arweinwyr a rheolwyr y dyfodol.

Mae'r rhaglen MSc Rheoli (Rheoli Ryngwladol) ym Mhrifysgol Abertawe wedi'i chynllunio ar gyfer myfyrwyr sydd am ganolbwyntio'n benodol ar y cyfleoedd a'r heriau a gynigir gan fusnes mewn marchnad fyd-eang cydgysylltiedig. Byddwch yn astudio modiwlau ym maes busnes byd-eang a rheoli rhyngwladol cyn cyflawni prosiect arbenigol tebyg i waith ymgynghoriaeth rheoli sy'n berthnasol i reoli rhyngwladol.

Mae'r rhaglen hon hefyd yn mynd i'r afael â chysyniadau rheoli craidd fel rheoli adnoddau ariannol, rheoli gweithrediadau, rheoli adnoddau dynol a rheoli gwaith marchnata.

Wedi’i achredu gan y Sefydliad Rheolaeth Siartredig (CMI), sef yr unig gorff proffesiynol siartredig yn y Deyrnas Unedig yn benodol ar gyfer hyrwyddo’r safonau uchaf mewn rhagoriaeth rheoli ac arweinyddiaeth, mae’r cwrs ar agor i fyfyrwyr o unrhyw ddisgyblaeth a hoffai weithio ym myd busnes neu reoli. Ar ôl gorffen y modiwlau a fapiwyd yn y cwrs gradd MSc mewn rheoli byddwch chi’n cymhwyso ar gyfer Tystysgrif mewn Rheoli ac Arweinyddiaeth Strategol Lefel 7 y Sefydliad Rheolaeth Siartredig.

Gwyddom fod hwn yn fyd cystadleuol. Er mwyn eich helpu i gael y gorau o'ch astudiaethau a chael mantais dros eich cystadleuwyr, mae'r rhaglen hefyd yn cynnwys modiwl sgiliau academaidd sy'n cwmpasu materion fel dulliau ymchwil.

Pam Rheoli (Rheoli Rhyngwladol) yn Abertawe?

  • Mae'r Ysgol Reolaeth wedi'i hachredu gan AACSB International, cymdeithas addysg fusnes fwyaf y byd, sy'n cysylltu ysgolion busnes, busnesau a dysgwyr, i greu'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr gwych.
  • Ar gael i ymgeiswyr heb unrhyw brofiad blaenorol o bynciau sy'n gysylltiedig â busnes neu reoli
  • Caiff pob modiwl ei addysgu gan ein cyfadran o'r radd flaenaf sydd â gwybodaeth ddiwydiannol ac academaidd
  • Achrediad gan gorff proffesiynol, a all helpu i sbarduno eich gyrfa
  • Addysgir ein rhaglenni myfyrwyr yn adeilad gwerth £22 miliwn yr Ysgol Reolaeth ar gampws y Bae
  • Mae Astudiaethau Busnes a Rheoli wedi'i roi yn safle 83 yn Nhablau Prifysgolion y Byd QS fesul Pwnc 2025

Eich Profiad Rheoli (Rheoli Rhyngwladol)

O'r eiliad y byddwch yn cyrraedd yr Ysgol Reolaeth, byddwn yn gweithio gyda chi er mwyn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau a'ch profiad i wella eich rhagolygon gyrfa.

Bydd ein tîm gyrfaoedd penodol yn rhoi'r holl gyngor ar yrfaoedd sydd ei angen arnoch, a hwnnw'n gyngor un i un wedi'i deilwra ar eich cyfer. Gallwch gwblhau lleoliad gwaith neu interniaeth drwy Rwydwaith Interniaeth â Thâl Abertawe (SPIN) neu fenter Wythnos o Waith.

Mae ein holl fyfyrwyr yn elwa o rannu'r safle arloesol ar Gampws y Bae â phartneriaid diwydiannol. Mae ein cyfleusterau'n cynnwys mannau wedi'u neilltuo i addysgu ac astudio, a chyfleusterau TG helaeth â'r galedwedd a'r feddalwedd arbenigol ddiweddaraf.

Cyfleoedd Cyflogaeth Rheoli (Rheoli Rhyngwladol)

Mae gennym hanes ardderchog o leoli ein graddedigion gyda chwmnïau amlwladol mawr.

Bydd eich rhaglen Rheolaeth (Rheoli Ryngwladol), gyda'i hachrediad CMI, yn rhoi cyfleoedd i chi weithio mewn amrywiaeth eang o sectorau a ffynnu yn y farchnad gystadleuol hon.

Gallai eich cam nesaf fod yn unrhyw un o'r rolau canlynol:

  • Cynghorwr Busnes
  • Dadansoddwr
  • Ymgynghorydd Rheoli
  • Bancwr Buddsoddi

Modiwlau

Mae myfyrwyr sydd yn dechrau ym mis Medi neu Ionawr yn astudio’r run modiwlau craidd fel rhan o’r rhaglen. Mae dyddiadau Ionawr i’w cadarnhau.

Mae'r modiwlau fel arfer yn cynnwys: Rheoli Adnoddau Dynol, Strategaeth, a Rheoli Rhyngwladol.

Ymwadiad: Gall dewis modiwlau newid