Trosolwg o'r Cwrs
Mae'r MSc Rheoli Uwch (Chwaraeon, Busnes ac Arweinyddiaeth) yn rhaglen arloesol a blaengar sydd wedi'i llunio'n benodol ar gyfer gweithwyr chwaraeon proffesiynol ac athletwyr.
Datblygwyd y cwrs i gefnogi uwch-arweinwyr ac arweinwyr y dyfodol mewn sefydliadau chwaraeon, wrth hefyd fod yn hynod berthnasol i athletwyr sydd am amrywio eu set o sgiliau (oddi ar y cae), gyda sgiliau ac ymagweddau y gellir eu rhoi ar waith yn eu sefydliad neu eu menter entrepreneuraidd.
Mae'r rhaglen ar gyfer unigolion sy’n:
- Gweithio ar hyn o bryd mewn sefydliadau chwaraeon yn y sector chwaraeon, sydd am gael cymhwyster rheoli neu arwain ffurfiol i fynd â’u gyrfa i'r lefel nesaf.
- Athletwyr proffesiynol neu led-broffesiynol, sy'n meddwl am ddatblygu eu sgiliau rheoli ac entrepreneuraidd, yn barod ar gyfer bywyd ar ôl ymddeol o chwaraeon proffesiynol.
- Awyddus i ddatblygu gyrfa yn y sector chwaraeon.
Wedi'i haddysgu dros ddwy flynedd, mae'r MSc hon wedi'i chreu er mwyn cynnig cyfleoedd i ddatblygu sgiliau hanfodol wrth feithrin ffordd o feddwl sy'n canolbwyntio ar reoli. Mae'r addysgu'n seiliedig ar ddamcaniaeth reoli sylfaenol gydnabyddedig, a ddefnyddir mewn ffordd sy'n benodol i'r sector chwaraeon.
Gan gynnig cyfuniad unigryw o gysyniadau damcaniaethol a chymhwysiad ymarferol, mae'r rhaglen yn cynnig modiwlau chwaraeon sy'n dod â damcaniaeth yn fyw gan ddefnyddio astudiaethau achos go iawn i ddangos sut caiff y ddamcaniaeth hon ei chymhwyso, wrth gynnig nifer o gyfleoedd i feithrin sgiliau rheoli ymarferol.
Mae llwybr chwaraeon ein rhaglen Rheoli Uwch yn cynnig dysgu hygyrch, hyblyg a chyfunol sy'n diwallu anghenion cymhleth posib gweithwyr chwaraeon proffesiynol, er mwyn i'r dysgu gael ei adeiladu o amgylch ymrwymiadau proffesiynol presennol.