Trosolwg o'r Cwrs
Ydych chi am ysgogi newid mewn systemau cymhleth? Ydych chi'n barod i feistroli'r grefft o reoli cymhlethdodau?
Mae'r cwrs arloesol hwn wedi'i lunio i ddarparu'r wybodaeth a'r sgiliau sy’n angenrheidiol i reoli systemau cymhleth yn effeithiol mewn llawer o sectorau, gan gynnwys y meysydd canlynol ond heb fod yn gyfyngedig iddynt: TGCh, Peirianneg, Dyframaeth, Amddiffyniad, Seiberddiogelwch ac Iechyd a Gofal.
Mae’n cynnig cyfuniad unigryw o gysyniadau damcaniaethol a chymwysiadau ymarferol sy'n deillio o astudiaethau achos o’r byd go iawn yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat. Mae'r rhaglen yn cyfuno damcaniaethau a modelau o systemau cymhleth, systemau cymdeithasol-dechnegol a damcaniaeth gymhlethdod.
Byddwch yn dysgu am egwyddorion rheoli asedau, rheoli gweithrediadau a damcaniaeth gymhlethdod a sut y gellir ei chymhwyso i sefyllfaoedd yn y byd go iawn.
Bydd y rhaglen hon yn eich galluogi chi i ddysgu am bwysigrwydd systemau cymdeithasol-dechnegol a sut maent yn hanfodol ar gyfer rheoli systemau cymhleth yn effeithiol.
Ar ôl i chi gwblhau'r cwrs, bydd gennych chi'r wybodaeth a'r sgiliau sy’n angenrheidiol i reoli systemau cymhleth yn effeithiol mewn sectorau amrywiol.
Byddwch yn gallu cymhwyso egwyddorion damcaniaeth gymhlethdod a systemau cymdeithasol-dechnegol i ddatrys problemau cymhleth a gwneud penderfyniadau effeithiol. Fel myfyriwr sydd wedi graddio ym maes Systemau Cymhleth, bydd galw mawr amdanoch chi ymysg sefydliadau yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat oherwydd eich gallu i reoli systemau cymhleth a’u cymhwysedd ar draws sectorau gwahanol.