Trosolwg o'r Cwrs
Mae mwy o fasnach a Buddsoddi Uniongyrchol o Dramor, teithio, y rhyngrwyd a chyfnewid diwylliannol i gyd wedi rhoi mwy o gyfleoedd i sefydliadau ehangu'n rhyngwladol, i fanteisio ar gyfleoedd newydd a bodloni'r galw cynyddol yn fyd-eang am nwyddau a gwasanaethau.
Mae'r rhaglen MSc Busnes Rhyngwladol wedi'i dylunio'n benodol i drin a thrafod y prosesau gofynnol er mwyn i sefydliadau fynd i'r afael â'r heriau a'r materion y mae busnes rhyngwladol yn eu peri, yn enwedig y rhai sy'n ymwneud â strategaeth, mentergarwch, arloesi, marchnata, arweinyddiaeth a chyllid, ond llywodraethu corfforaethol a moeseg hefyd.
Mae'r rhaglen hefyd yn cynnig cyfleoedd hanfodol 'yn y busnes', drwy'r clinig ar y campws i fusnesau bach, er mwyn ymgymryd â phrosiectau gyda sefydliadau go iawn fel rhan o'r modiwl Ymgynghori â Busnesau Rhyngwladol. Mae hyn yn rhoi mynediad uniongyrchol at fyd diwydiant, er mwyn cynghori ar faterion pob dydd a meithrin profiad a sylfaen sgiliau cysylltiedig sy'n ymwneud â busnes rhyngwladol.