Rheoli Uwch (Arloesedd Cymhwysol), PGCert

Datblygu Sgiliau Arweinyddiaeth a Rheoli ar gyfer y Sector Iechyd a Gofal

Health leadership worksop

Trosolwg o'r Cwrs

Ydych chi newydd gwblhau, neu ydych chi ar fin cwblhau Rhaglen Esiamplwyr Bevan, y Rhaglen Climb neu gyfwerth?

Mae'r cwrs hwn yn cynnig cyfle unigryw i ymarferwyr proffesiynol yn y sector iechyd a gofal i ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth a rheoli wrth roi ymagweddau arloesol ar waith i drawsnewid y ffordd y caiff gwasanaethau iechyd a gofal eu darparu.

Mae Rhaglen Esiamplwyr Bevan yn rhaglen genedlaethol sy'n cefnogi ymarferwyr proffesiynol yn y sector iechyd a gofal i ddatblygu atebion arloesol a'u rhoi ar waith er mwyn gwella gwasanaethau a chanlyniadau i gleifion.  Rhaglen arweinyddiaeth yw Climb ar gyfer darpar arweinwyr iechyd a gofal. Bydd y cwrs hwn yn cynnig mewnbwn academaidd, fframio addysgegol a mecanweithiau asesu ar gyfer dysgu drwy brofiad.

Mae'r PGCert mewn Rheoli Uwch (Arloesi Cymhwysol) yn cynnig ymagwedd unigryw ac arloesol at ddatblygu sgiliau arweinyddiaeth a rheoli yn y sector iechyd a gofal, rhywbeth sy'n hanfodol i oresgyn yr heriau mae'r sector yn eu hwynebu heddiw a heriau’r dyfodol, drwy ymchwil ac arloesi.

Os bydd dysgwyr yn dymuno parhau i astudio am radd Meistr lawn ar ôl cwblhau'r PGCert, byddant yn gallu cyflwyno cais am y cwrs MSc mewn Rheoli Uwch (Arloesi a Thrawsnewid Iechyd) drwy ddefnyddio'r credydau maent wedi'u hennill.

Pam Rheoli Uwch (Arloesedd Cymhwysol) yn Abertawe?

  • Mae'r Ysgol Reolaeth wedi'i hachredu gan AACSB International, cymdeithas addysg fusnes fwyaf y byd, sy'n cysylltu ysgolion busnes, busnesau a dysgwyr, i greu'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr gwych.
  • Byddwch yn sbardun allweddol i drawsnewid systemau iechyd a gofal er gwell drwy brosiect ymchwil ymarferol.
  • Bydd cyfle i ymarferwyr proffesiynol yn y sector iechyd a gofal ymgymryd â gwerthusiad beirniadol o ddamcaniaeth sylfaenol, ymarfer ac ymchwil mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
  • Byddwch yn mynd i'r afael â materion cyfoes mewn perthynas â thrawsnewid a gwella iechyd a gofal cymdeithasol drwy ymchwil
  • Mae addysgu arloesol yn cyfuno damcaniaeth ag ymarfer drwy ddadansoddi achosion, cyfleoedd i gyfranogwyr arsylwi, chwarae rôl a chael dosbarthiadau meistr gan arbenigwyr yn eu pynciau.
  • Mynediad at academyddion o safon fyd-eang â phrofiad helaeth.

Eich Profiad Rheoli Uwch (Arloesedd Cymhwysol)

Caiff y cwrs hwn ei addysgu mewn amgylchedd dysgu a arweinir gan ymchwil ac ymarfer; defnyddir yr wybodaeth ddiweddaraf i ysgogi ac ysbrydoli dysgwyr, gan uchafu eich deilliannau dysgu. Byddwch yn creu ymchwil ar y cyd ar y PGCert mewn Rheoli Uwch (Arloesi Cymhwysol).

Caiff eich dysgu ei ddatblygu drwy ffyrdd gwreiddiol o gymhwyso cysyniadau a modelau i achosion er mwyn i chi fagu'r hyder a'r gallu i roi eich sgiliau newydd ar waith yn eich gweithle eich hun.

Byddwch hefyd yn elwa o gysylltiadau a rhwydweithiau lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol. Bydd yr ehangder hwn o arbenigedd ymchwil, addysgu a phroffesiynol yn cyfoethogi eich datblygiad yn fawr ym meysydd arloesi a thrawsnewid iechyd a gofal.

Cyfleoedd Cyflogaeth Rheoli Uwch (Arloesedd Cymhwysol)

Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i alluogi darpar reolwyr canol ac uwch-reolwyr mewn systemau iechyd (yn y DU ac yn fyd-eang), a'r sectorau gofal cymdeithasol, gwyddorau bywyd a'r trydydd sector i sbarduno arloesi a thrawsnewid yn eu sefydliadau.

Modiwlau

Addysgir y PGCert mewn Rheoli Uwch (Arloesi Cymhwysol) drwy gyfuniad o ymgysylltu â staff academaidd ac arbenigwyr pwnc ar-lein ac wyneb yn wyneb.

Mae'r rhaglen yn seiliedig ar y rhyngweithio rhwng damcaniaeth ac ymarfer, a byddwch yn meithrin gwerthfawrogiad beirniadol o roi sgiliau a methodolegau ymchwil ar waith mewn cyd-destun iechyd a gofal.

Caiff y cwrs hwn ei addysgu i gyd-fynd â'r MSc presennol mewn Rheoli Uwch (Arloesi a Thrawsnewid Iechyd).