Yn gyffredinol, mae angen i gynnig ymchwil da gynnwys yr elfennau canlynol:
Teitl cychwynnol
Mae'n syniad da cynnig teitl arfaethedig ar gyfer eich prosiect ymchwil, oherwydd bod hyn yn rhoi crynodeb byr iawn o'ch ymchwil bwriadedig. Nid yw'r teitl cyntaf yn derfynol; gall pwyslais eich ymchwil newid wrth i'ch gwaith ymchwil ddatblygu, a gall fod yn hanfodol i chi ddiwygio eich teitl yn unol â hynny.
Trosolwg cyffredinol o'ch maes astudio
Dylech ddechrau eich cynnig drwy nodi a chrynhoi yn fras y pwnc rydych yn bwriadu ei ymchwilio. Gallai fod yn ddefnyddiol cyfeirio'n fras at y ffyrdd y bydd eich cefndir academaidd yn gwella eich gallu i ymgymryd â phrosiect yn y maes hwn.
Nodwch gyd-destun
Rhowch eich ymchwil mewn cyd-destun – sut mae'n gweddu i ddamcaniaethau presennol, a pha lenyddiaeth sydd eisoes yn bodoli yn eich maes pwnc? Dangoswch ddealltwriaeth o'r canlynol:
- Prif ddadleuon sydd wedi'u datblygu yn eich maes
- Prif ganfyddiadau eich ymchwilwyr sy'n gweithio ar eich pwnc
Bydd hyn yn dangos eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o'ch pwnc ymchwil arfaethedig.
Cyflwyniad i'ch prif gwestiynau ymchwil
Nodwch yr hyn y bydd eich cynnig yn mynd i'r afael ag ef yn benodol, a beth yw eich nodau ac amcanion. Gallai fod yn ddefnyddiol i chi amlinellu un neu ddau o gwestiynau craidd rydych yn bwriadu eu hateb.
Eich dulliau ymchwil arfaethedig
Dylech amlinellu'r fethodoleg rydych yn bwriadu ei defnyddio.Er enghraifft, a ydych chi'n mynd i ystyried casgliad penodol yn yr archifau, neu a fyddwch chi'n cynnal cyfweliadau grŵp?Os ydych yn bwriadu casglu data, pa ddull byddwch chi'n ei ddefnyddio i'w gasglu?
Yn yr adran hon, gall fod yn ddefnyddiol:
- Tynnu sylw at y cyfleusterau presennol sydd ar gael i chi yn y Brifysgol a sut rydych chi'n bwriadu eu defnyddio
- Amlinellu'r problemau posibl a sut y gallwch eu goresgyn
Rhagfynegiad o ganlyniadau disgwyliedig eich gwaith ymchwil
Dylech gloi eich cynnig drwy nodi eich canlyniadau disgwyliedig. Beth rydych chi'n gobeithio ei brofi/gwrthbrofi? Nodwch sut rydych chi'n rhagweld y bydd eich ymchwil yn cyfrannu at ddadleuon a trafodaethau yn eich maes pwnc penodol:
- Sut bydd eich ymchwil yn gwneud cyfraniad gwreiddiol at wybodaeth?
- Sut y gallai lenwi bylchau mewn gwaith presennol?
- Sut y gallai ehangu gwybodaeth o bynciau penodol?
Mae'n bwysig cofio nad y traethawd terfynol yw eich cynnig PhD, ac nid ydych wedi eich rhwymo i'ch syniad ymchwil cychwynnol. Wrth i'ch PhD fynd rhagddo, efallai y byddwch yn sylwi bod eich gwaith ymchwil yn newid, yn rhannol neu'n gyfan gwbl.
Llyfryddiaeth
Byddem yn argymell cynnwys llyfryddiaeth yn rhestru'r llyfrau, yr erthyglau a'r tudalennau gwe rydych wedi eu defnyddio i ysgrifennu eich cynnig. Sicrhewch eich bod wedi'i gyflwyno mewn fformat safonol a chyson, megis Harvard.