tri myfyriwr ôl-raddedig yn eistedd ar bwys ffynnon

mathau o ymweliad

Myfyriwr Ymchwil ar Ymweliad

Mae Prifysgol Abertawe'n croesawu myfyrwyr o bedwar ban byd, am ymweliadau lle mae'r ymweliad arfaethedig ag Abertawe'n rhan 'allweddol' o gwrs astudio presennol myfyriwr mewn sefydliad arall. Er ein bod yn gwneud pob ymdrech i fodloni ceisiadau am ymweliadau, oherwydd lefel y galw a'r gystadleuaeth am leoedd cyfyngedig, caiff y ceisiadau eu hystyried fesul achos. 

Ymweliadau hyd at 6 mis - Pwyntiau Allweddol:

  • Dim tâl (Sylwer, er nad oes tâl canolog, gall rhai ymweliadau ddenu tâl i dalu am gyfarpar arbenigol neu gostau labordy ar gyfer eich ymchwil. Os yw ffïoedd mainc yn berthnasol, bydd yr union swm i'w dalu'n cael ei bennu gan eich cynghorydd ymweld ac yn cael ei gynnwys yn eich cynnig ymweliad).
  • Gall gofynion mynediad iaith Saesneg myfyrwyr amrywio o IELTS 6.5 i IELTS 5.5 (neu gymhwyster cyfwerth a gydnabyddir gan Brifysgol Abertawe) gan ddibynnu ar y maes ymchwil cysylltiedig. Mae mwy o fanylion am ein polisi Iaith Saesneg ar gael yma. Caiff ymwelwyr llwyddiannus sydd wedi cael cynnig amodol ar sail caffael tystysgrif Iaith Saesneg eu hannog i gadw lle ar einprawf SWELT Prifysgol Abertawe am ddim (1 ymgais).
  • Dylai ymwelwyr llwyddiannus y mae’n ofynnol iddynt feddu ar dystysgrif ATAS cyn cofrestru gyflwyno cais ymhell cyn eu dyddiad ymweld arfaethedig er mwyn i'w cais ATAS gael ei brosesu.

Nid oes angen i fyfyrwyr ac ymchwilwyr sy'n wladolion gwledydd yr UE, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, Awstralia, Canada, Japan, Seland Newydd, Singapore, De Korea, Y Swistir nac Unol Daleithiau America gael tystysgrif ATAS. Sylwer y gall y rhestr uchod o wladolion/wledydd newid ac felly dylai darpar ymwelwyr wirio cymhwysedd ATAS, cyn cyflwyno cais.

Ymweliadau rhwng 6 a 12 mis - Pwyntiau Allweddol:

  • Codir tâl sy’n gyfwerth â 50% ffi cwrs PhD amser llawn ar gyfer misoedd 6 i 9.Codir tâl sy’n gyfwerth â 75% ffi cwrs PhD amser llawn (100%) ar gyfer misoedd 10 i 12. (Sylwer y gall rhai ymweliadau gynnwys tâl ar wahân i dalu am offer arbenigol neu gostau labordy sydd eu hangen ar gyfer eich ymchwil).  Os yw ffïoedd mainc yn berthnasol, bydd yr union swm i'w dalu'n cael ei bennu gan eich cynghorydd ymweld ac yn cael ei gynnwys yn eich cynnig ymweliad).
  • I ymwelwyr sy’n gymwys i dalu ffïoedd y DU, gallai'r tâl am ymweliad 12 mis fod yn fwy na £2,500. Sylwer mai canllaw bras yw'r uchod a gall newid. Caiff yr union daliadau ymweld eu rhestru yn ein llythyrau cynnig.
  • I ymwelwyr sy’n gymwys i dalu ffïoedd rhyngwladol, gallai’r tâl am ymweliad 12 mis fod yn fwy na £9,000. Sylwer mai canllaw bras yw'r uchod a gall newid. Caiff yr union daliadau ymweld eu rhestru yn ein llythyrau cynnig.
  • Mae angen fisa Llwybr Myfyrwyr (Nawdd Haen 4) ar gyfer ymweliadau rhwng 6 a 12 mis - mae angen mynd drwy broses mewnfudo myfyrwyr lawn y DU. Caniatewch ddigon o amser i gael y fisa wrth drefnu dyddiadau ymweld arfaethedig.
  • Gall gofynion mynediad iaith Saesneg myfyrwyr amrywio o IELTS 6.5 i IELTS 5.5 (neu gymhwyster cyfwerth a gydnabyddir gan Brifysgol Abertawe) gan ddibynnu ar y maes ymchwil cysylltiedig. Mae mwy o fanylion am ein polisi Iaith Saesneg ar gael yma. Caiff ymwelwyr llwyddiannus sydd wedi cael cynnig amodol ar sail caffael tystysgrif Iaith Saesneg eu hannog i gadw lle ar einprawf SWELT Prifysgol Abertawe am ddim (1 ymgais.
  • Dylai ymwelwyr llwyddiannus y mae’n ofynnol iddynt feddu ar dystysgrif ATAS cyn cofrestru gyflwyno cais mewn da bryd er mwyn i'w cais ATAS gael ei brosesu.

Nid oes angen i fyfyrwyr ac ymchwilwyr sy'n wladolion gwledydd yr UE, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, Awstralia, Canada, Japan, Seland Newydd, Singapore, De Korea, Y Swistir nac Unol Daleithiau America gael tystysgrif ATAS. Sylwer y gall y rhestr uchod o wladolion/wledydd newid ac felly dylai ymwelwyr wirio cymhwysedd ATAS, cyn cyflwyno cais.

 

Sut i gyflwyno cais i ymweld

Cwestiynau Cyffredin

 

  • Pryd gallaf ddechrau fy ymweliad?

 

A. Yn ystod cyfnodau cofrestru mis Hydref, Ionawr, Ebrill a Gorffennaf yn ddelfrydol, ond rydym yn hapus i ystyried unrhyw adegau dechrau. Oherwydd y galw mawr, ni allwn warantu derbyn myfyrwyr ac mae ar sail gystadleuol.

  1. A all unrhyw dâl a nodir mewn llythyr gwahoddiad gael ei hepgor?(ymweliad 6 i 12 mis)
  2. Beth yw'r gofynion mynediad o ran yr iaith Saesneg?
  3. Nid wyf yn fyfyriwr o'r DU, a fydd angen fisa arnaf?
  4. Ar ôl cofrestru, a allaf estyn ymweliad am hyd at 6 mis i fwy na 6 mis o hyd?
  5. Pryd dylwn i gyflwyno cais ar gyfer fy ymweliad?
  6. A allaf gael amryw o ymweliadau ag Abertawe?

A. I fod yn deg ac yn gyson i'r holl fyfyrwyr sy'n ymweld, caiff taliadau/ffioedd mainc (fel y bo'n berthnasol) eu codi yn unol ag amgylchiadau unigol ac ni ellir eu hepgor.

A. Mae manylion gofynion mynediad iaith Saesneg ar gael yma. Caiff gofynion mynediad iaith Saesneg eu nodi yn ein llythyrau gwahoddiad i ymweld. Gall deiliaid cynnig amodol drefnu 1 prawf SWELT Abertawe am ddim.

A. Mae manylion gofynion mewnfudo'r DU ar gael yma.

A. Ar ôl cofrestru, ni all ymweliadau gael eu hestyn i fwy na 6 mis o hyd.

A. Rydym yn derbyn ceisiadau ar unrhyw adeg. Serch hynny, er mwyn caniatáu amser i gwblhau ein proses cyflwyno cais/dethol myfyrwyr, cadarnhau amodau cynnig, amser i gwblhau ceisiadau am fisa a thystysgrifau ATAS os yw’n briodol, rydym yn argymell eich bod yn cyflwyno ceisiadau o leiaf 3 mis cyn dyddiad dechrau arfaethedig eich ymweliad.

A. Enwebeion y Gyfadran fel arfer sy'n penderfynu ar dderbyn ymwelwyr a dim ond unwaith y gall myfyrwyr ymweld o fewn cyfnod o 12 mis. Mewn amgylchiadau eithriadol, ni ddylai amryw o ymweliadau ag Abertawe fod yn fwy na chyfanswm o 12 mis gyda’i gilydd.Yn olaf, os yw’n briodol, gweler yr arweiniad canlynol gan UKVI - Immigration Rules - Immigration Rules Appendix V: Visitor - Guidance - GOV.UK