Sesiwn Holi ac Ateb Rithwir i Ôl-raddedigion

Dydd Sadwrn 13 Gorffennaf 2024 - 10:00-11:30 (BST)

Gallwch bellach gadw lle ar gyfer y Sesiwn Holi ac Ateb Rithwir i Ôl-raddedigion. Mae'r digwyddiad hwn yn sesiwn galw heibio fer er mwyn i chi ymuno â ni unrhyw bryd rhwng 10:00 a 11:30 (BST) ddydd Sadwrn 13 Gorffennaf 2024. Byddwn ni'n agor y sesiwn â chyflwyniad am 15 munud a fydd yn rhoi trosolwg byr o astudio ôl-raddedig gan gynnwys graddau Meistr a PhD, ac opsiynau cyllido sydd ar gael ym Mhrifysgol Abertawe. Bydd gweddill y sesiwn yn cael ei neilltuo ar gyfer ateb eich cwestiynau'n fyw. Bydd staff o’r tîm Derbyn a’n Myfyrwyr Llysgennad ar gael i ateb eich cwestiynau. 

Sylwer, ni fydd neb o’r adrannau academaidd yn bresennol yn y digwyddiad hwn.

*Oherwydd bod nifer gyfyngedig o leoedd ar gael yn y Sesiwn Wybodaeth, argymhellwn eich bod chi’n cadw eich lle cyn gynted â phosib. 

Cofrestrwch nawr

Noson Agored Rithwir TAR Cynradd ac Uwchradd

Nos Iau 11 Gorffennaf 2024, 18:00-19:30 (BST) (Zoom)

Ymunwch â ni yn ein Noson Agored Rithwir TAR Cynradd ac Uwchradd! Cewch gyfle i gwrdd â'r tîm TAR, ein myfyrwyr a'r ysgolion sy'n bartneriaid â ni yn ein sesiwn holi ac ateb fyw ar Zoom i ganfod mwy am astudio gyda ni o fis Medi 2024!

Cofrestrwch nawr

Diwrnod Agored Gyrfaoedd y GIG

Edrychwn ymlaen at eich croesawu i gampws Parc Singleton ar gyfer ein Diwrnod Agored Gyrfaoedd y GIG ddydd Sadwrn 14eg o Fedi. Byddwch yn gallu darganfod mwy am ein hystod o raglenni a Ariennir gan y GIG yn ogystal â'n graddau israddedig Llwybrau at Feddygaeth.

Archebwch eich lle
Ymarfer yr Adran Llawdriniaeth

I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau ôl-raddedig, cyllid a'n digwyddiadau nesaf, rhowch eich manylion isod:

Cofrestrwch eich diddordeb yn ein Diwrnod Agored nesaf