Os ydych yn astudio cwrs Meistr yn Abertawe ar gyfer blwyddyn academaidd 2024-2025, gallech dderbyn benthyciad hyd at uchafswm o £18,950.
Pwy sy'n gymwys?
I fod yn gymwys i dderbyn Benthyciad Meistr Ôl-raddedig, bydd yn dibynnu ar y canlynol:
- eich cenedligrwydd a ble rydych yn byw
- eich astudiaethau blaenorol
I wirio a ydych yn gymwys, ewch i: www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/cyllid-ol-raddedig/meistr/pwy-sy-n-gymwys
Ceisiadau ac ad-daliadau
Caiff yr arian ei dalu i'ch cyfrif banc mewn 3 rhandaliad, fel arfer unwaith ar ddechrau pob tymor. Os bydd eich cwrs yn para am fwy na blwyddyn, caiff yr arian ei rannu'n gyfartal ar draws pob blwyddyn eich cwrs.
Bydd yn rhaid i chi ad-dalu unrhyw fenthyciad, gan gynnwys llog, unwaith byddwch wedi gorffen neu adael eich cwrs.
I gyflwyno cais, ewch i: www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/cyllid-ol-raddedig/meistr/sut-mae-gwneud-cais-a-phryd
I gael mwy o wybodaeth, ewch i wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru neu ffoniwch Cyllid Myfyrwyr Cymru ar: 0300 100 0494