Os ydych yn hapus i ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl graddio, byddwch yn gymwys i dderbyn cyllid gan Gynllun Bwrsariaethau GIG Cymru.
Dylech gyflwyno cais am eich bwrsariaeth GIG cyn gynted â phosib ar ôl i chi dderbyn cynnig cadarn gan eich prifysgol o ddewis. Y dyddiad hwyraf i gyflwyno cais am gyllid yw chwe wythnos ar ôl dechrau'r cwrs.
Pa gyllid sydd ar gael drwy Gynllun Bwrsariaethau GIG Cymru?
Ffioedd Dysgu
Mae'r GIG yn talu'ch ffioedd dysgu'n llawn felly ni fydd angen i chi dalu ffïoedd dysgu.
Cyllid Cynhaliaeth y GIG
Mae cyllid ar gael gan y GIG hefyd ar ffurf grant o £1,000 nad yw'n destun prawf modd a bwrsariaeth o hyd at £4651 sy'n destun prawf modd. Bydd swm y fwrsariaeth y byddwch yn ei dderbyn yn dibynnu ar hyd eich cwrs ac incwm eich cartref.
Yn ogystal, gall myfyrwyr gyflwyno cais am nifer o grantiau atodol ychwanegol os ydynt yn bodloni meini prawf penodol. Mae’r grantiau hyn yn seiliedig ar brawf modd ac maent yn cynnwys:
Lwfans Dibynyddion
Lwfans Dysgu i Rieni
Lwfans Gofal Plant
PWYSIG – Sylwer na chaiff rhandaliad cyntaf cyllid y GIG ei dalu tan ddiwedd ail fis eich cwrs fel arfer.
Mae Gwasanaethau Dyfarniadau Myfyrwyr yn gweithredu Cynlluniau Bwrsariaeth GIG Cymru sy'n darparu cyllid ar gyfer myfyrwyr gofal iechyd ar gynlluniau a ariennir gan y GIG yng Nghymru. Os ydych yn ystyried gyrfa broffesiynol mewn gofal iechyd a hoffech wybod mwy am y cymorth ariannol y byddwch yn ei gael yn ystod eich hyfforddiant, cysylltwch â:
Ymholiadau Bwrsariaeth – Ffôn: 02920 905380
E-bost: abm.sas@wales.nhs.uk
Gwefan:Gwasanaethau Dyfarniadau Myfyrwyr – Partneriaeth Gwasanaethau a Rennir GIG Cymru
Benthyciadau Myfyrwyr
Ni fydd myfyrwyr o Gymru sy'n cael mynediad at Gynllun Bwrsariaethau GIG Cymru'n gallu cael mynediad at fenthyciadau gan Gyllid Myfyrwyr i helpu gyda chostau byw ar gyfer y MSc Nyrsio.
Mae myfyrwyr o Loegr sy'n cyflwyno cais i Gynllun Bwrsariaethau GIG Cymru'n gallu cael mynediad at fenthyciad cynnal a chadw gwerth £2,534 sy'n destun prawf modd ar gyfradd is. Bydd angen cyflwyno cais i Student Finance England. Bydd myfyrwyr sydd wedi astudio’n flaenorol neu sydd eisoes â chymhwyster gradd YN gymwys o hyd i dderbyn y benthyciad hwn.
Cyllid arall
Mae Prifysgol Abertawe yn cynnig cymorth pellach i fyfyrwyr ag ystyriaethau ychwanegol, megis gofalwyr a gadawyr gofal drwy ein bwrsariaethau StudentPlus