Gradd Ôl-Raddedig a Addysgir
Gallwch ddod o hyd i fanylion am gostau ffioedd dysgu yn y blwch 'Manylion Allweddol y Cwrs' ar bob tudalen cwrs ôl-raddedig a addysgir.
Codir ffioedd dysgu ar bob myfyriwr yn flynyddol yn ystod cyfnod byrraf posib ymgeisyddiaeth eich rhaglen fel arfer, a byddant yn cynyddu 3% bob blwyddyn. Amlinellir y cyfnodau ymgeisyddiaeth ar gyfer rhaglenni ôl-raddedig a addysgir isod:
Rhaglen | Cyfnod byrraf yr ymgeisyddiaeth |
---|---|
Gradd Meistr; amser llawn (180 credyd) | 1 blwyddyn |
Gradd Meistr ran-amser (hyblyg) (90 credyd y flwyddyn) | 2 flynedd |
Gradd Meistr ran-amser (60 credyd y flwyddyn) | 3 blynedd |
Gradd Meistr estynedig amser llawn (120 credyd y flwyddyn) | 2 flynedd |
Gradd Meistr estynedig ran-amser (60 credyd y flwyddyn) | 4 blynedd |
- Mae'r ffioedd dysgu ar gyfer rhaglenni meistr a addysgir yn cynnwys costau'r traethawd estynedig.
- Cyfrifir y ffioedd dysgu ar gyfer rhaglenni rhan-amser ar sail canran pro rata'r ffi ddysgu amser llawn gyfatebol.
- Ar gyfer rhaglenni Erasmus Mundus, mae'r gyfradd Ewro a nodir ar dudalen y cwrs yn ymwneud â'r flwyddyn a dreulir ym Mhrifysgol Abertawe fel rhan o'r cytundeb cydweithio.
- Cyfrifir modiwlau unigol ar sail canran pro rata'r ffi ddysgu amser llawn gyfatebol.
- Os bydd gofyn i chi ailgyflwyno eich DIL (Traethawd Hir/Dysgu Annibynnol) codir ffi ailgyflwyno o £102 arnoch.
Chwiliwch am Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Ymchwil a Rhaglenni a Addysgir a allai fod ar gael i chi.