Preswylwyr y DU: Os yw eich cwrs yn cynnwys lleoliad sy'n cynnwys gwirfoddoli neu weithio gydag oedolion neu blant sy'n agored i niwed yna bydd gofyn i chi gael datgeliad manwl o gofnod troseddol trwy'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
Bydd y Swyddfa Derbyn yn anfon dolen atoch i wneud cais am eich DBS ar-lein o’r mis Ebrill cyn dyddiad dechrau eich cwrs. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cwblhau eich cais ymhell cyn dyddiad dechrau eich cwrs. Darllenwch ein canllawiau DBS cyn i chi ddechrau cwblhau eich cais
Gofynnir i ymgeiswyr o'r UE a thramor ddarparu dogfen wreiddiol gan awdurdod yr heddlu (neu awdurdod perthnasol arall) yn eich gwlad breswyl yn manylu ar statws eich cofnod troseddol. Mewn llawer o wledydd, gelwir y ddogfen hon yn 'Tystysgrif Dim Euogfarn Droseddol’, ‘Tystysgrif Ymddygiad Da’ neu ‘Tystysgrif Clirio’r Heddlu’
- Ewch i’ch gorsaf heddlu leol neu'ch awdurdod lleol
- Cysylltwch â'r llysgenhadaeth neu'r conswl cyffredinol yn eich gwlad breswyl neu yn y Deyrnas Unedig. Mae manylion llysgenadaethau yn y Deyrnas Unedig i'w gweld ar wefan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad
- Edrychwch ar y rhyngrwyd, a defnyddiwch chwiliad geiriau fel 'Gwiriad cefndir troseddol yn y wlad breswyl'